llais y sir

Hydref 2016

Hwb enfawr i ddatblygiad ysgol newydd £10.5 miliwn yng Nglasdir

Mae'r Pwyllgor Cynllunio wedi cymeradwyo’r cais cynllunio ar gyfer safle ysgolion newydd yn Rhuthun yn ddiweddar. Bydd y buddsoddiad £10.5miliwn yn galluogi i Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras symud i gyfleusterau modern, addas i’r diben yn 2017.  Mae'r prosiect yn cael ei ariannu yn gyfatebol gan Llywodraeth Cymru fel rhan o'u Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.Aerial view of Glasdir site

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, "Mae hon yn garreg filltir bwysig ar gyfer addysg yn ardal Rhuthun yn y dyfodol, mae cymeradwyaeth yn ystod y cam cynllunio y cam mawr olaf felly ymlaen ar frys nawr i waith ddechrau ar y safle. Mae'n gyfnod cyffrous i’r ddwy ysgol, hoffem ddiolch iddynt a'u cymunedau am eu cyfraniadau tuag at ddatblygiad y prosiect hwn."

Dywedodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, Karen Evans, "Rydym wrth ein bodd bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi heddiw. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleusterau addysgol gorau i'n disgyblion yn Sir Ddinbych. Mae ein buddsoddiad parhaus yn ein hysgolion yn dyst i hyn a bydd yn sicrhau bod rhagoriaeth addysgol yn cael ei chefnogi nawr ac yn y dyfodol."

Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr o Wynne Construction: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cytundeb arall o dan Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru ac i fod yn gweithio unwaith eto gyda Chyngor Sir Ddinbych ar y prosiect dylunio ac adeiladu hwn.”

"Mae gennym berthynas lwyddiannus gyda Sir Ddinbych ac wedi cwblhau gwaith adeiladu yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Gynradd Borthyn yn Rhuthun yn flaenorol. Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni'r prosiect ynghyd â'n cadwyn gyflenwi lleol ac i ddangos ein hymrwymiad i'r gymuned leol drwy ystod o fuddion a mentrau cymunedol. Bydd yr ysgol yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio technoleg BIM lefel 2 diweddaraf. "

 

 

 

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...