llais y sir

Hydref 2016

Cwmni jam â chic yn dathlu ffrwyth ei lafur gyda charreg filltir o ran stocwyr

Mae pâr o entrepreneuriaid sy’n gwisgo masgiau a dillad amddiffynnol i wneud eu jam chilli tanllyd yn dathlu carreg filltir bwysig – cael eu 150fed stociwr.Business3

Mae Dominic Haynes a Llyr Jones, a lansiodd y Dangerous Food Company lai na thair blynedd yn ôl pan gafodd y ddau eu diswyddo o laethdy Gwyddelig, yn awr yn cyflenwi eu brand unigryw o jamiau chilli i fwytai, siopau fferm a siopau bwyd ar draws y DU - a hyd yn oed mor bell i ffwrdd ag Alphen yn yr Iseldiroedd.

Maent yn dweud fod grant o £2,300 gan Gyngor Sir Ddinbych wedi ysgogi eu twf cyflym, gan gynnwys ehangu yn ddiweddar i’r farchnad caws gafr moethus, a’u helpu i ateb galw cwsmeriaid yn fwy parod drwy brynu oergell y gallwch gerdded i mewn iddi.

Ac fel mae’r fenter o Lanelwy yn paratoi i ddadorchuddio, cynnyrch cyfrinachol newydd cyn gŵyl fwyd Hamper Llangollen ar 19 a 20 Hydref, mae'r ddeuawd wedi cael eu 150fed allfa i werthu eu cynnyrch – Siop Fferm Frankie’s yn Nyserth.

“O’r diwedd, rydym yn y cyfnod lle rydym yn gwybod ei fod yn gweithio," meddai Dominic, 33, sy'n byw yn Llanelwy.

“Rydym wedi gwneud y cyfan yn ddiddyled ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Bu rhai dyddiau tywyll ar y dechrau, fel pob busnes, ond erbyn hyn mae popeth yn disgyn i'w le. Erbyn hyn mae o i gyd ynghylch ehangu a gwneud pethau yn gyflymach.

“Er mwyn i fusnes dyfu yn rhaid i chi wario arian ond os gellir tynnu hanner y gost ymaith, mae'n golygu eich bod yn teimlo'n fwy hyderus ac yn fwy diogel am ehangu a gallwch dyfu yn gyflymach a gwneud y busnes yn fwy llwyddiannus.

“Eisoes, gyda dim ond y ddau ohonom, rydym wedi caffael rhan fach o'r farchnad fwyd ac rydym yn awyddus i ledaenu ein cynnyrch ymhellach.

“Mae gennym gwsmeriaid yn Llundain a gororau’r Alban ond mae mwy na 2,000 o siopau fferm a delis yn genedlaethol, felly'r cam nesaf yw i wthio hyn. Ein nod yw cyrraedd cynifer â phosib."

Dechreuodd y ddeuawd, sydd wedi bod yn ffrindiau ers 11 mlynedd, wneud siytni chilli tanllyd sy'n addas ar gyfer cig, caws a barbiciws yn Ionawr 2013, gan gyfuno chilli poeth gyda ffrwythau Prydeinig traddodiadol i chwyddo’r blas.

Roedd Dominic, a raddiodd o Brifysgol Nottingham gyda gradd mewn dylunio cynnyrch, yn enwog am ei sgiliau coginio ymhlith ffrindiau a theulu ac roedd wedi creu dim llai na 38 fersiwn o’r hyn sydd bellach yn gynnyrch gwreiddiol y cwmni, Jam Chilli Coch a Leim, yn ei gegin gartref cyn penderfynu ar ei rysáit 'waw ffactor' terfynol.

“Rwyf wastad wedi bod yn eithaf da yn y gegin. Roedd pawb yn gwybod fy mod yn coginio bwyd sbeislyd ofnadwy yn y brifysgol ac roeddent yn arfer cwyno am yr arogl, "meddai.

Yn y dyddiau cynnar, penderfynodd y cyfeillion werthu rhywfaint o'r jam mewn digwyddiad bwyd penwythnos a chawsant eu synnu pan werthodd pob un o’r 600 jar ar y stondin. Y diwrnod nesaf, darganfu’r pâr eu bod yn cael eu diswyddo o'u swyddi gwerthu a roddodd y cymhelliad iddynt i werthu'r jamiau llawn amser.

Erbyn mis Mai 2014, roedd y gwŷr busnes wedi datblygu tri chynnyrch jam; eu Jam Chilli Coch a Leim gwreiddiol, Jam Chilli Habanero gyda Mango wedi’i Aeddfedu yn yr Haul, a enillodd ddwy seren yn y Gwobrau Great Taste yn 2015, a Jam Jalapeno Chilli ac Afal, sydd wedi symud y gwaith cynhyrchu allan o gegin cartref Dominic i eiddo yn Patchwork Paté yn Rhuthun.

Dilynodd mwy o flasau, gan gynnwys y Jam Ghost Chilli sy’n cynnwys un o'r chillis poethaf yn y byd ac sy'n golygu gorfod gwisgo offer llygaid amddiffynnol yn ystod y broses gynhyrchu.

Ym mis Awst y llynedd, mentrodd y ddau i fyd cynnyrch caws gafr moethus o’r Iseldiroedd a gynigwyd o dan eu brand sydd wedi cael ei groesawu yn y farchnad fwyd ‘gourmet’ - ac mae wedi arwain at gontract stoc chwenychedig ar draws y Sianel ar gyfer eu jamiau.

A diolch i grant busnes a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar ddechrau 2016, roeddent yn gallu prynu cyfleuster storio awyr agored pwrpasol a'u galluogodd i luosi eu capasiti archebion ac ehangu.

“Roedden ni wedi cael rhai contractau cyfanwerthwyr mawr ac roedd yr oergell yn golygu ein bod yn gallu storio'r cynnyrch yn rhwydd," meddai Dominic, a fynychodd Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones yn y Rhyl pan oedd yn tyfu i fyny.

“Gwnaeth y grant ein twf yn hylaw ac yn haws. Ar gyfer unrhyw fusnes fel ein un ni, mae mis Ionawr a Chwefror yn dawel, a byddai gwario’r math yma o arian ein hunain wedi bod yn llawer mwy o risg.

“Rydym yn dal i weithio 50 neu 60 awr yr wythnos. Cafodd Llyr a'i bartner eu plentyn cyntaf, Molly, wyth wythnos yn ôl. Gwnaeth faint o waith mae angen i ni ei wneud hi’n anodd cael unrhyw absenoldeb tadolaeth ond roeddem yn gallu gweithio’r oriau hyn pan oeddem eisiau, felly roedd rhywfaint o hyblygrwydd."

Dywedodd Kirsty Davies, Swyddog Cefnogi Busnes a Rhwydweithio ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych: “Mae'n rhoi boddhad anhygoel i wylio busnesau lleol yn llwyddo, yn enwedig mor fuan ar ôl lansio.

“Mae ein cynllun grant busnes wedi ei gynllunio i annog busnesau newydd i gymryd y camau cyntaf hynny tuag at ehangu ac yn y pendraw creu swyddi newydd a chefnogi datblygiad yr economi leol, sy'n flaenoriaeth i’r cyngor.

“Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu rhwystrau ar y llwybr i dwf, gan gynnwys diffyg adnoddau neu gyfleusterau ac mae'r prosiect hwn yn helpu i liniaru rhai o'r rhain, gan ganiatáu arloesed a dawn i ffynnu’n ddirwystr."

I gael gwybod sut i wneud cais am Grant Datblygu Busnes ewch i www.sirddinbych.gov.uk/busnes neu ffoniwch 01824 706896.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...