llais y sir

Hydref 2016

Môr-wenoliaid bach yn ffynnu ar Arfordir Sir Ddinbych

Mae un o adar y môr prinnaf y DU yn parhau i ffynnu ar gyrion Prestatyn er bod y boblogaeth yn gostwng ym mhobman arall yn y wlad. Arweiniodd tymor da arall at gynnydd i 141 pâr bridio Môr-wenoliaid Bach, y nifer uchaf a gofnodwyd ar y safle. Mae arolygon diweddar wedi dangos bod cyflenwadau helaeth o bysgod bach megis llymrïaid, ffefryn cywion y Môr-wenoliaid Bach, oddi ar arfordir Sir Ddinbych. Mae hyn yn sicr wedi cynorthwyo’r Môr-wenoliaid Bach i fagu eu cywion eleni gyda chyfanswm o 170 o gywion bach, y nifer uchaf ers 2010.Little Terns 2

Mae rôl Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr ymroddedig yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y nythfa o adar pwysig hyn. Mae tymor 2016 yn golygu bod Gronant wedi cyrraedd yr ail safle yn y DU ar gyfer llwyddiant parau bridio Môr-wenoliaid Bach a’r cywion. Mae’r llwyddiant hwn yn deyrnged i’r gwaith caled a wnaed ar gyfer y cynllun diogelu gan gadwraethwyr a gwirfoddolwyr dros y 40 mlynedd diwethaf, drwy gynnal ffensys trydan, hel ysglyfaethwyr oddi yno a chynnal gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd. Nid oes rhwystrau i gymryd rhan yn y cynllun diogelu ac mae gwirfoddolwyr o bob math o gefndiroedd yn dod yn eu niferoedd o bob cwr o'r rhanbarth.

Heb yr ymroddiad hwn, byddai’r nythfa'n diflannu a byddai Môr-wenoliaid Bach sy'n bridio yn cael eu colli oddi ar arfordir Cymru.Little Terns 4

Mae’r Fôr-wennol Fechan yn llawer mwy na dim ond aderyn y môr du a gwyn. Bob blwyddyn mae’r unigolion dewr hyn yn hedfan 4,000 o filltiroedd o Arfordir Gorllewin Affrica i fagu eu cywion ifanc ar gyrion Prestatyn. Mae’r preswylwyr lleol yn falch o’r ffaith hwn ac maent yn rhywogaeth eiconig yn yr ardal, sy’n annog twristiaeth.

Mae poblogaeth iach Môr-wenoliaid Bach yn dibynnu ar system o dwyni tywod iach ac mae hyn yn sicr yn bresennol ar Arfordir Sir Ddinbych. Mae’r twyni sy’n rhedeg i’r dwyrain o Brestatyn wedi’u diogelu gan Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac mae Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid yn rheoli’r ardal er budd bioamrywiaeth a hamdden rhagorol. Mae’r twyni hefyd yn darparu amddiffynfa naturiol rhag y môr sy'n hynod o bwysig yn y cyfnod hwn o batrymau tywydd anrhagweladwy a newidiol.

Mae deall ymddygiad y Môr-wenoliaid Bach yn hanfodol i'w cynorthwyo i gyrraedd poblogaeth fridio gynaliadwy. Rydym ymhell ohoni ond mae cyllid drwy brosiect Adfer Môr-wenoliaid Bach BYWYD+ yr UE eisoes wedi darparu canlyniadau.

Eglura Hugh Irving, yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau:  "Rydym mewn cyfnod cyffrous iawn o ddeall ymddygiad Môr-wenoliaid Bach. Mae rhaglen modrwyau lliw drwy gyllid BYWYD+ wedi trawsnewid sut y gallwn dderbyn gwybodaeth, yn awr drwy edrych drwy delesgop gallwn wybod ar unwaith o ble y daeth yr aderyn a faint oed ydyw.  Little Terns 5

"Mae Twyni Gronant yn fan gwych i ymweld ag ef gyda'r twyni tywod helaeth a bywyd gwyllt pwysig. Mae’r Fôr-wennol Fechan yn sicr yn seren y sioe ac, yn dilyn lansiad Grŵp Môr-wenoliaid Bychan Gogledd Cymru gan wirfoddolwyr eleni, mae mwy o ymrwymiad i sicrhau dyfodol sicr ar gyfer yr adar hyn.

"Roeddwn yn falch iawn o gael gwybod am lwyddiant prosiect y Môr-wenoliaid Bychan eleni. Mae’r fenter hon yn enghraifft wych o faint y gellir ei gyflawni drwy gyfuniad o arbenigedd y Cyngor Sir a gweithgor o wirfoddolwyr ymroddedig.

“Wrth ymweld â’r safle’r Haf hwn roedd ymrwymiad y wardeiniaid gwirfoddol yn y warchodfa'n anhygoel, yn goruchwylio ac amddiffyn yr ardal nythu ac yn annog ac egluro gweithgareddau'r grŵp i'r cyhoedd oedd yn mynd heibio.Little Terns 6

Mae’r ymrwymiad hwn yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at gadwraeth y rhywogaeth bwysig hon ynghyd â darparu cyfleoedd ymchwil i'w hymddygiad bridio a llwybrau hedfan mudol o Orllewin Affrica, ac mae'r gwirfoddolwyr yn haeddu ein diolch am eu hymdrechion.

 “Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag amser i’w sbario i edrych ar y cyfleoedd gwirfoddoli sy’n bodoli gyda’r Cyngor Sir.”

 

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...