Diweddariad Ysgol Gatholig Crist y Gair
Mae cynnydd ar yr ysgol Gatholig 3 i 16 yn y Rhyl yn cynyddu gyda cadarnhad enw newydd ar gyfer yr ysgol ynghyd a’r gwaith adeiladu yr ysgol newydd yn dechrau.
Ddiwedd mis Mehefin cafodd gwesteion eu gwahodd gan Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, i seremoni torri tywarchen ddydd Gwener ar safle’r datblygiad a fydd yn cymryd lle Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones. Yn ystod y digwyddiad cyhoeddodd yr Esgob enw newydd yr ysgol 3 i 16 – Ysgol Gatholig Crist y Gair.
Mae’r safle drws nesaf i’r ddwy ysgol lle mae gwaith galluogi eisoes wedi digwydd ac mae’r gwaith llawn bellach ar y gweill. Mae cwmni Kier Construction wedi cael ei benodi gan y Cyngor fel prif gontractwr yr ysgol newydd a ddarperir ar gyfer Esgobaeth Wrecsam.
I ddathlu’r cynnydd bu seremoni arwyddo’r trawst pan y gwahoddwyd gwesteion i arwyddo trawst. Rhoddwyd trawst i ddisgyblion a staff yr ysgolion yr wythnos flaenorol i’w arwyddo ac roedd hwn i’w weld yn y strwythur yn ystod y digwyddiad.
Disgwylir i’r adeilad newydd agor yn hydref 2019 a bydd adeiladau’r ysgolion presennol yn cael eu dymchwel cyn i waith allanol ddechrau ar yr ardaloedd chwaraeon / chwarae ar ôl cwblhau adeilad yr ysgol yn barod ar gyfer haf 2020. Bydd lle i 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed yn yr ysgol newydd.
Mae’r prosiect mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.