llais y sir

Hydref 2018

Tân Llantysilio

Roedd Ceidwaid Cefn Gwlad yn brysur dros yr haf yn helpu’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ddiffodd y tân ym Mwlch yr Oernant. Cychwynnodd y tân ar 14 Gorffennaf a bu’n llosgi am bron i 8 wythnos gan ledaenu dros hanner mynyddoedd Llantysilio a dinistrio cynefinoedd a phorfeydd pwysig. Bu Bwlch yr Oernant ar gau am wythnosau wrth i lwybr y tân symud tua’r ffordd, ac ar ei anterth, roedd yna bryder gwirioneddol am ddiogelwch eiddo ger y mynydd.

Roedd y ddaear mor sych a’r tân yn llosgi mor aruthrol nes iddo dreiddio i’r priddoedd mawnog a pharhau i losgi yn y ddaear ymhell ar ôl i’r llystyfiant ddiflannu. Roedd posib arogli’r mwg 20 milltir i ffwrdd wrth i’r mynydd barhau i losgi a mygu’n iasol ymhell ar ôl i’r fflamau ddiflannu oddi ar yr wyneb.

Oherwydd maint y tân, daeth criwiau tân ar hyd a lled Gogledd Cymru yno, gyda dros 60 o ddiffoddwyr tân wedi’u gwasgaru ar draws y mynydd yn ceisio diffodd y tân o sawl ochr trwy’r dydd a’r nos.

Mae gan y Gwasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad offer diffodd tân arbenigol y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith traddodiadol o losgi rhostiroedd grug dan reolaeth yn y gaeaf. Felly fe wnaethom yn siŵr bod yr offer hwn ar gael ar unwaith i fynd i’r afael â’r tân.  Bu’n bosib i ni weithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Tân i ddiffodd rhannau o’r tân, trefnu i dorri rhwystrau tân a chynghori ar sut i fynd at fannau allweddol ar y mynydd.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...