Sgwter traws gwlad newydd – Tramper
Mae ein sgwter traws gwlad newydd o’r enw Tramper yn caniatáu mynediad gwell at gefn gwlad i bawb yn cynnwys unigolion mewn cadeiriau olwyn, pramiau ac unigolion ag anawsterau symud.![Tramper](/img/1053/1024/1024)
Mae hwn yn sgwter gyriant pedair olwyn arbennig sy’n addas ar gyfer pob tir, gellir ei ddefnyddio ar draws gwlad neu ar dir garw, mwd a glaswellt.
Mae’r sgwter, sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads, ar gael i’w logi AM DDIM o amgylch y parc. Mae gofyn i ddefnyddwyr ddilyn cyflwyniad byr cyn mynd allan ar hyd y llwybr dynodedig o amgylch y parc.
Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy am gyllid i brynu’r sgwter.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Lloyd ar 01824 712757 neu e-bostiwch ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk