Diwrnod Gwych yn Sioe Dinbych a Fflint
Cawsom ddiwrnod gwych yn Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint eleni yn hyrwyddo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Y thema eleni oedd iechyd a lles. Gweithiom gyda’n cydweithwyr talentog o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a chynnal ystod o weithgareddau, yn cynnwys;
- Gwneud Bathodynnau
- Crefftau Cefn Gwlad
- Cwis ar Blastig ac Addewid
- Cyngor ar Gerdded Nordig a Sesiwn Flasu
- Sesiwn Flasu ar Sgwter- ein sgwter traws gwlad newydd
Roedd y Sioe hefyd yn gyfle i ni hyrwyddo ein hymgyrch Dos a'r Tennyn, sy’n gofyn i berchnogion cŵn gadw eu cŵn ar dennyn pan yn ymweld â rhai o’n safleoedd cefn gwlad megis Parc Gwledig Moel Famau. Roedd y cŵn i gyd wedi mwynhau’r esgyrn am ddim!
Cawsom y cyfle hefyd i gefnogi busnesau lleol yn y neuadd fwyd. Cydweithiodd Aelodau Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd i hyrwyddo a gwerthu bwyd a diod blasus a gynhyrchwyd ar ein carreg drws! Doedd dim asgwrn i’w gael ond roedd y samplau yn flasus iawn!