Wythnos Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun
Mae sgerbydau a chreaduriaid anghynnes yn llechu yn y cysgodion, a sŵn bwganod yng ngwynt y nos. Daeth yr amser unwaith eto i Garchar Rhuthun agor ei ddrysau ar gyfer wythnos Calan Gaeaf, a chroesawu pobl o bob oed i ddod i gael hwyl o fewn muriau arswydus y Carchar.
Bydd y Carchar wedi’i addurno’n arbennig ar gyfer yr achlysur, a bydd digonedd o weithgareddau celf a chrefft tymhorol a helfa Calan Gaeaf i’w chwblhau wrth ichi grwydro o amgylch celloedd iasoer y carchar Fictoraidd. Rydym yn annog unrhyw un sy’n ddigon dewr i ddod yn eu gwisg Calan Gaeaf fwyaf dychrynllyd i fynd i ysbryd y digwyddiad.
Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad, a bydd y carchar ar agor o 10 o'r gloch tan 5 o'r gloch gydol wythnos Calan Gaeaf (drysau’n cau i ymwelwyr am 4 o'r gloch).