llais y sir

Hydref 2018

Manteision twristiaeth yn Sir Ddinbych ar gynnydd

Mae budd economaidd twristiaeth yn Sir Ddinbych yn parhau i dyfu. Mae’r ffigyrau effaith economaidd STEAM diweddaraf yn dangos yn 2017 fod twristiaeth wedi dod â £490.35miliwn i’r economi leol, cynnydd o 2.3 y cant ers 2016, a 70 y cant ers 2007.

Denbighshire Social Media

Y llynedd roedd twristiaeth yn cefnogi 6,231 o swyddi yn Sir Ddinbych, a 5.93miliwn o bobl wedi ymweld â’r sir, cynnydd o 25 y cant ers 2007, cyfanswm o 11.58miliwn y dydd. Roedd y nifer o ymwelwyr â’r arfordir wedi cynyddu i 3.16miliwn, a nifer y dyddiau a dreuliwyd gan ymwelwyr (6.92miliwn) a’r nifer o ymwelwyr oedd yn aros (900,000).

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cynnydd yn y budd economaidd cyffredinol o dwristiaeth yn Sir Ddinbych yn galonogol iawn, er gwaethaf 2017 yn flwyddyn heriol o safbwynt y tywydd.  

“Mae gan y sir gymaint i’w gynnig, morlin hyfryd, trefi marchnad gwledig, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, llu o weithgareddau awyr agored yn ogystal â chyfoeth o hanes a chynnyrch a siopau lleol gwych.

“Mae’r cynnydd mewn twristiaeth arfordirol yn arbennig o galonogol. Gyda dau westy newydd yn y Rhyl, atyniad i ymwelwyr SC2 fydd yn agor y flwyddyn nesaf, yn ogystal â’r bwyty 1891 sydd eisoes wedi’i sefydlu a’r Nova ym Mhrestatyn, byddem yn disgwyl i’r ffigyrau hyn barhau i dyfu. Mae hyn yn dangos buddsoddiad gan y Cyngor ac mae’r sector preifat yn cael effaith gwirioneddol ar ffyniant economaidd yn Sir Ddinbych, sy'n flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol."

Roedd yna gyfanswm o 1.5miliwn o ymwelwyr a oedd yn aros dros nos y llynedd a gyfrannodd at gyfanswm o £331.46miliwn i’r economi yn 2017, 50 y cant o gynnydd mewn ymwelwyr a oedd yn aros dros nos o’i gymharu â 2007.

Dywedodd Dave Jones, sy’n berchennog y Bwthyn Gwely a Brecwast pedair seren Plas Efenechtyd ger Rhuthun: “Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr tramor yn aros yn hirach, yn arbennig o’r Iseldiroedd, yr Almaen a'r UDA. Eleni cafwyd llawer o archebion dros fisoedd yr haf.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd gyda syniad o’r hyn maent yn dymuno ei weld a’i wneud ond heb lawer o wybodaeth am hanes, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru, rhywbeth yr hoffwn ei weld yn cael sylw.

“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn galonogol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol eraill fel Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd i greu rhaglenni gyda thema a chreu pecynnau deniadol fydd yn apelio at amrywiaeth o ymwelwyr.”

Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi twristiaeth drwy waith partneriaeth cadarn yng Ngogledd Cymru i gyfalafu ar y farchnad dwristiaeth gynyddol. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal prosiectau i uwchsgilio staff sy’n gweithio o fewn twristiaeth sy’n ymwneud â busnes i wella profiad ymwelwyr, cynhyrchu taflenni twristiaeth newydd a ffilmiau hyrwyddol i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach yn ogystal â chefnogi prif ddigwyddiadau a gwyliau fel Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...