llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 3

Jac Y Neidiwr

Mae Jac y Neidiwr yn gallu ymddangos fel planhigyn deniadol â blodyn porffor sy’n cyrraedd ei lawn dwf yn ystod yr haf ar hyd glannau afon a thir gwastraff yn bennaf. Fodd bynnag, yn anffodus nid yw’n blanhigyn cynhenid ac mae’n ymwthiol ac yn gallu tagu llystyfiant arall yn gyflym. Ar ôl tagu llystyfiant arall sy’n tyfu o’i amgylch, mae planhigyn Jac y Neidiwr yn marw yn y gaeaf gan adael pridd moel. Yn aml mae afonydd yn gorlifo ac yna’n golchi'r pridd i ffwrdd sy'n achosi erydiad ar lannau'r afon. Gall yr erydiad hwn achosi i waddod gasglu yn yr afonydd a chael effaith andwyol ar fywyd gwyllt sy'n byw yn yr afonydd. Gall pob planhigyn gynhyrchu hyd at 800 o hadau – mae’r rhain yn ffrwydro o’u codennau ar ôl aeddfedu a gallant wasgaru hyd at 4 metr i ffwrdd o'r planhigyn. Yn aml maent yn glanio ger cyrsiau dŵr sy'n eu helpu i wasgaru'r hadau hyd yn oed ymhellach. Gan hynny, mae Jac y Neidiwr yn ymwthiol dros ben a gall gael effaith andwyol ar fflora cynhenid ar hyd glannau afonydd a hefyd ar fywyd gwyllt sy’n byw yn yr afonydd.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Wildground i gael gwared ar Jac y Neidiwr ar hyd Afon Alyn o’i tharddiad yn Llandegla i’r Wyddgrug.

Rydym yn rheoli Jac y Neidiwr yn bennaf trwy gael grwpiau o wirfoddolwyr i'w dynnu â llaw ond rydym hefyd yn defnyddio contractwyr i drin ardaloedd mwy dwys. Ar ôl ei dynnu, mae angen ‘crensian’ Jac y Neidiwr er mwyn ei ddinistrio’n gyfan gwbl ac yna rydym yn ei osod mewn pentyrrau bach ar hyd glan yr afon sy’n pydru yn gyflym. Mae angen ei dynnu cyn iddo ddechrau hadu felly mae angen gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith cyn mis Awst. Fodd bynnag, gellir gweld planhigion yn blodeuo mor hwyr â mis Tachwedd felly mae’n bwysig dal ati i gerdded ar hyd rhannau i chwilio am unrhyw dyfiant newydd.

Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld gostyngiad mawr yn niferoedd y planhigyn hwn a'r gobaith yw sicrhau bod Jac y Neidiwr yn cael ei glirio’n gyfan gwbl o Afon Alyn. Ar un adeg, roedd llawer iawn o'r planhigyn yn tyfu ar y rhan hon o'r afon. Ond rydym bellach wedi llwyddo i’w ostwng i ychydig o ardaloedd problemus yr ydym yn canolbwyntio arnynt eleni. Ar ôl hyn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ostwng faint o Jac y Neidiwr sy’n tyfu ymhellach i lawr yr afon.

Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw un o’r diwrnodau gwirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar Jac y Neidiwr yr haf hwn, mae croeso i chi gysylltu â John Morris ym Mharc Gwledig Loggerheads (01824 712757).

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...