llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 3

Flailbot (peiriant ffustio rheoli o bell)

Y gaeaf hwn rydym wedi bod yn treialu Flailbot (peiriant ffustio a reolir o bell) yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Sicrhawyd cyllid trwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chadwyn Clwyd i weld sut y gallai defnyddio Flailbot fod o fudd posibl i’r AHNE.

Un o brif bryderon y rheiny sy’n gysylltiedig â rheoli cynefinoedd ar dir uchel yn ardaloedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw'r gostyngiad mewn da byw sy’n cael eu troi allan i bori’r bryniau. Mae gostyngiad mewn da byw pori yn yr ardaloedd ucheldirol hyn yn achosi i ormod o lystyfiant ucheldirol dyfu. Mae hyn wedyn yn gwneud y cynefin yn llai ffafriol i ffawna megis Y Grugiar Ddu. Gan hynny mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o annog pori rheolaidd yn yr ardaloedd hyn neu eu rheoli’n effeithiol gyda dulliau amgen.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle i ni weld manteision posibl y peiriant hwn i ddulliau rheoli cynefinoedd yn yr ucheldiroedd. Rydym wedi bod yn defnyddio’r Flailbot i dorri eithin a grug mewn ardaloedd ucheldirol nad oedd modd cael mynediad atynt gyda pheiriannau confensiynol nac er mwyn eu llosgi yn y gorffennol oherwydd bod y llethrau mor serth. Mae’r peiriant Flailbot fodd bynnag yn gallu ymdopi â llethrau ar onglau hyd at 55 gradd ac mae’n llawer mwy addas ar gyfer y tirwedd uchel ac yn llawer mwy sefydlog. Nid oes angen gyrrwr ar gyfer y peiriant felly mae’n llawer mwy diogel os oes damwain yn digwydd ac mae hynny’n nodwedd sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y tirwedd hwn.

Mae llogi’r peiriannau Flailbot wedi ein galluogi i dorri ardaloedd o grug ac eithin, agor ardaloedd ychwanegol o dir pori ar gyfer da byw trwy adael i anifeiliaid symud yn rhydd. Mae traciau ychwanegol wedi cael eu torri yn y prysgwydd er mwyn gallu rheoli a chasglu diadell yn haws. Ar y rhostiroedd grug mae rhwystrau tân wedi cael eu torri er mwyn helpu i reoli ucheldir grug yn y dull traddodiadol sef llosgi. Fodd bynnag, bydd hynny hefyd yn fuddiol er mwyn lleihau effeithiau difrodus tanau mynydd damweiniol sy’n digwydd yn fwy a mwy aml.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...