llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 3

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae gwirfoddolwyr o ardd gymunedol ac adarwr brwd wedi derbyn gwobrau. Bob blwyddyn mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cyflwyno dwy wobr i anrhydeddu'r rhai sy'n cyfrannu at y dirwedd a chymunedau yn yr ardal.

Eleni rhoddwyd Gwobr yr AHNE i Ardd Gymunedol Corwen a chyflwynwyd Gwobr Gwirfoddolwr yr AHNE i John Lawton Roberts. Mae Mr Roberts o Langollen wedi treulio rhan helaeth o'i fywyd yn cofnodi, gwylio ac adrodd ar adar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae wedi cynorthwyo i lunio darlun manwl o'r newidiadau i boblogaethau adar yn yr ardal sy'n cwmpasu cyfnod o dros 40 mlynedd.

Mae nifer o’i bapurau gwyddonol wedi eu cyhoeddi ac mae wedi cofnodi’r newidiadau o ran yr adar ar Rostir Rhiwabon a Chreigiau Eglwyseg, gyda’i waith wedi cyfrannu at lwyddiant nifer o brosiectau gan gynnwys Rhaglen Adfer y Rugiar Ddu Gymreig.

Mae Gardd Gymunedol Corwen wedi ei lleoli yn y berllan gymunedol ger canol y dref, ac mae’n adnodd i holl aelodau’r gymuned. Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mercher, gan ddarparu cyfle cymdeithasol a gwneud cyfraniad i iechyd a lles y rhai sy’n cymryd rhan. Datblygwyd y safle yng ngwanwyn 2016 gyda chyllid Llywodraeth Cymru a sicrhawyd gan Age Concern ac unwaith y daeth y cyllid i ben, fe aeth grŵp bach o wirfoddolwyr ati i barhau â'r gwaith. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf maent wedi trawsnewid y cae yn ardd hardd a chynhyrchiol.

Dywedodd Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE, y Cynghorydd Tony Thomas “Hoffwn longyfarch John a'r gwirfoddolwyr o Ardd Gymunedol Corwen ar eu gwobrau.

“Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn elwa o bawb sy’n rhoi eu hamser ac ymdrech i helpu i wella'r dirwedd a chymunedau. Mae ymdrechion John a’r aelodau o Ardd Gymunedol Corwen wedi bod yn eithriadol tu hwnt.”

O’r chwith i’r dde

Swyddog Partneriaeth Gymunedol yr AHNE, Ros Stockdale, aelodau o Grŵp Cymunedol Corwen

Swyddog yr AHNE Howard Sutcliffe, Swyddog Cyfathrebu’r AHNE Karen Weaver, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE, David Shiel, Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE Andrew Worthington OBE, Rhes flaen, aelod o Grŵp Cymunedol Corwen Jane Marsden, Uwch Warden Cefn Gwlad yr AHNE, Rhun Jones, John Lawton Roberts a'i wraig, Is Gadeirydd Partneriaeth yr AHNE y Cyng Paul Cunningham, Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE y Cyng Tony Thomas

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...