llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 3

Creu Cartrefi i Ddreigiau ar Dwyni Sir Ddinbych

Mae rhan fechan o forlin Sir Ddinbych yn gartref i boblogaeth fechan o ddreigiau Cymreig bach. Ers eu difodiant yn y 1960au a’u hail-gyflwyniad diweddar i’n systemau twyni, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn ddiweddar i ddod a phoblogaeth madfall y tywod yn Sir Ddinbych yn ôl i’w llawn ogoniant.

Yn ddiweddar, aeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych gyda Mick Brummage (cofnodydd ymlusgiaid y Sir) a rhai o wirfoddolwyr ymroddedig, i'r twyni, i gyflawni gwaith rheoli cynefin hanfodol.

Bu ychydig o oedi yn y gwaith yn ystod y bore oherwydd bod y tymheredd yn oerach na'r disgwyl. Mae madfallod y tywod, fel holl ymlusgiaid, yn ectothermig, ac yn dibynnu ar eu hamgylchedd i reoli tymheredd eu cyrff. Pan mae’r tywydd yn oer maent yn cuddio o fewn eu twyni, sy’n golygu bod palu yn y tywod yn risg. Felly, cafodd y gwaith ei ohirio nes i'r tywydd gynhesu a'r madfallod allan yn torheulo.

Roedd y gwaith yn cynnwys defnyddio cloddiwr i dynnu a chrafu'r llystyfiant a oedd wedi tyfu’n drwchus ar y twyni. Gwnaed hyn er mwyn gallu datgelu ardaloedd o dywod a lleihau arwynebedd yr ardaloedd cysgodol. Mae hyn yn darparu ardaloedd ychwanegol i fadfallod y tywod dorheulo, tyllu a dodwy.

Yn yr ardaloedd mwy sensitif y twyni, lle nad oedd y cloddiwr yn gallu mynd, defnyddiodd y gwirfoddolwyr rawiau er mwyn tynnu'r llystyfiant yn ofalus, wrth geisio cadw llygad am fadfallod bychain yn torheulo.

Edrychwn ymlaen at fonitro’r twyni a’r ardaloedd tywod newydd dros y blynyddoedd nesaf a gweld y ddraig fach Gymreig gyntaf yn torheulo yn eu llecyn tywod newydd!

Diolch i Mick Brummage am ei arweiniad a’i gymorth ar y diwrnod, Arwyn Parry Construction Services Ltd am eu hagwedd cynnil tuag at y gwaith, ac wrth gwrs, ein grŵp gweithgar o wirfoddolwyr sydd bob amser yn barod am waith gyda gwên ar eu hwynebau

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...