Mae tîm prosiect yn paratoi i ddiogelu dyfodiaid bach i helpu aderyn dan fygythiad i oroesi.

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru”, partneriaeth prosiect Adfer y Gylfinir yng Nghymru sy’n gweithio gyda Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Mae hyn o dan brosiect partneriaeth Cymru gyfan, Gylfinir Cymru sydd â’r nod o roi hwb i’r gylfinirod sy’n magu ledled y wlad, gan gynnwys Sir Ddinbych.

Mae’r gylfinir dan fygythiad enbyd ac fe’i rhoddwyd ar ‘Restr Goch’ Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ers y 1990au, mae mwy nag 80 y cant o’r gylfinirod sy’n magu yng Nghymru wedi diflannu.

Mae nifer o resymau am y dirywiad, gan gynnwys colli cynefin, pwysau ffermio yn ystod y tymor nythu ac effaith anifeiliaid eraill yn eu lladd.

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i amddiffyn yr adar mewn deuddeg o ardaloedd yng Nghymru, wedi’i ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Y Swyddog Gylfinirod a Phobl Lleol, Sam Kenyon, sy’n arwain y gwaith yn yr ardal, sy’n cynnwys ardaloedd helaeth yn Sir Ddinbych a rhannau o Sir y Fflint a Wrecsam.

Drwy weithio ochr yn ochr gyda ffermwyr a gwirfoddolwyr, mae Sam a’i thîm wedi lleoli bron i 30 pâr o’r gylfinir ac maent yn paratoi ar gyfer yr hyn fydd y cam prysuraf o’r prosiect.

Dywedodd: “Mae’r prosiect yn mynd yn dda iawn, rydym yn cael llawer o wybodaeth am ein hadar y tymor hwn drwy ddod i’w hadnabod nhw a’r parau yn well a sut maent yn ymddwyn, diolch i’r wybodaeth leol sydd gennym yn ein cymunedau.

“Mae’r ffermwyr wedi bod yn anhygoel wrth weithio gyda nhw. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer y prosiect. Roedd un ar ddeg o bobl o wyth fferm wahanol wedi cyfarfod y tîm yn ddiweddar yn y Berwyn Arms ac roedd y cyfnewid gwybodaeth yn werthfawr.”

Drwy weithio gyda’r ffermwyr, mae Sam a’r tîm wedi cynnal ymyriadau syml i ddiogelu’r Gylfinirod a nythod ar draws yr Ardal o Bwysigrwydd i’r Gylfinir.

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn monitro saith nyth, rhai wedi gweld ffens drydan yn amgylchynu pob nyth i gadw ysglyfaethwyr draw.

Eglurodd Sam “Gyda hon yn flwyddyn gyntaf i ni, drwy gynnal yr ymyriadau, rydym yn gobeithio llwyddo i gynyddu’r raddfa deori o tua 30 y cant i tua 90 y cant.

Mae arwyddion o’r deoriad cyntaf o gywion yn agosáu'n gyflym ac mae Sam a’r Tîm yn barod i symud i’r cam nesaf o amddiffyn a monitro’r adar gyda chymorth ffermwyr lleol.

“Byddwn yn monitro’r cywion ar y ddaear ac yn gweithio’n agos gyda’n ffermwyr i gadw’r cywion mor ddiogel â phosibl. Oherwydd eu bod ar y ddaear am chwe wythnos nes byddant yn magu plu, yn gyffredinol bydd yna 10 wythnos rhwng dodwy a dechrau hedfan”

Bydd y Gylfinir gwrywaidd yn gofalu am y rhan fwyaf o fagu’r cywion tra bydd y menywod yn gwneud yn fawr o allu bwydo eu hunain ac adennill eu cyflwr.
Ychwanegodd Sam: “Ni fydd y cywion yn gadael ardal y ffens drydan am yr ychydig ddyddiau cyntaf, ond yna yn eithaf buan byddant yn gallu mynd ychydig gannoedd o fetrau ar draws y ddaear ar eu coesau bach, sy’n golygu y byddant yn gallu symud drwy ffensys i gaeau eraill ac ar ffermydd eraill a dyna ran arall yn y prosiect ble mae ein rhwydwaith o ffermwyr yn ein helpu i gadw cyfrif o’r adar.”

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae hwn yn brosiect arbennig o bwysig i helpu aderyn oedd unwaith i’w weld yn aml, nid yn unig yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru ond ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect a’r cyllid hwn yn caniatáu i’r Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fwrw ymlaen yn wirioneddol â gwaith i ddiogelu’r gylfinir, gan annog y poblogaethau i oroesi a gobeithio ffynnu yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu sôn am unrhyw ylfinirod rydych chi wedi’u gweld neu’u clywed yn yr ardaloedd dan sylw, e-bostiwch samantha.kenyon@sirddinbych.gov.uk