Mae cyfle i wirfoddoli wedi helpu i ysgogi garddwr i weddnewid ei chymdogaeth.
Mae Corinne Barber o Langollen wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau garddio gwirfoddol dan arweiniad staff ym Mhlas Newydd, gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd.
Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n cydweithio gydag unigolion a chymunedau i amlygu sut all mynediad at natur wella iechyd a lles.
Mae Plas Newydd wedi lansio cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer garddwyr selog sydd â diddordeb hefyd mewn cadw darn o hanes y dref.
Mae cartref y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby yn cynnwys oddeutu 10 erw o dir, o erddi rhosod i goetir a’r glyn, wedi’u hategu gan nant yn llifo drwyddo.
Fe eglurodd Corinne ei fod wedi bod yn ‘ysbrydoliaeth’ i wirfoddoli yn y safle hanesyddol fel un o’r garddwyr.
Dywedodd: “Rydw i’n byw mewn fflat heb ardd a dim ond lle i barcio. Rydw i’n caru garddio ac fe awgrymodd ffrind fy mod i’n gwirfoddoli gyda chi. Mae gen i gi sydd bellach yn hen a methu symud llawer erbyn hyn, felly roedd ei gymryd yno’n golygu y gallai eistedd yn awyr iach tra roeddwn i’n garddio.
“Ar ôl ychydig fisoedd, cefais fy ysbrydoli i drio gwneud ein maes parcio yn fwy deniadol, nid i mi fy hun yn unig, ond i fy nghymdogion hefyd. Fe baentiais y ffensys a phlannu llawer o lwyni a phlanhigion. Fe greodd fy chwaer stand planhigion allan o hen baled ac fe baentiodd fy nghymydog ‘The Grapes Community Garden’ arno.
“Mae’r cymdogion wedi dod ynghyd, fe roddodd rhai blanhigion, fe roddodd rhai arian ac fe roddodd rai eraill werthfawrogiad a chefnogaeth. Drwy wneud hyn, rwyf yn gweld bod y cymdogion i gyd wedi dod ynghyd. Mae gennym rywle braf i eistedd ac rwyf wedi ychwanegu goleuadau solar i roi awyrgylch braf min nos.
“Mae ychydig ohonom yn dod ynghyd ac yn eistedd y tu allan am sgwrs ac mae pobl sydd yn cerdded i fynd a lawr yr allt yn galw draw am sgwrs i drafod y planhigion weithiau. Alla i ddim credu’r gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i’n cymuned fach, ac mae’r cyfan yn deillio o fy nghyfnod yn gwirfoddoli ym Mhlas Newydd, fe roddodd ysbrydoliaeth a hyder i mi greu ein paradwys fach ein hunain.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae gwirfoddoli i helpu gyda’r ardd ym Mhlas Newydd yn gyfle gwych i drigolion sydd â diddordeb mewn garddio i hybu eu lles trwy dreulio amser yn helpu yn yr awyr agored hardd hon.
“Mae’n wych clywed bod Corianne wedi mwynhau’r profiad yma a’i bod wedi ei ddefnyddio i greu ardal o ardd gymunedol ffantastig iddi hi a’i chymuned ei fwynhau a phrofi manteision yr awyr agored ar stepen eu drws eu hunain.”