Mae gwaith yn parhau i gysylltu cymuned leol y Rhyl gyda manteision safle natur newydd ar gyfer lles.

Mae gwaith datblygu’r Safle Natur Cymunedol newydd wrth ymyl Ffordd Parc Elan yn Llys Brenig ar Ystâd Park View yn parhau dros yr haf hwn yn barod ar gyfer cwblhau’r prosiect erbyn mis Rhagfyr.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â thri Safle Natur Cymunedol arall a sefydlwyd gan y Cyngor eleni yn Llanelwy, Henllan a Chlocaenog.

Mae’r Prosiect Safleoedd Natur Cymunedol wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cafodd ardal gwlyptir newydd ei greu yn y safle yn gynharach eleni ac mae eisoes wedi dangos arwyddion o rywogaethau newydd, gydag amrywiaeth o flodau gwyllt cyfagos yn cefnogi pryfed peillio. Roedd y gwaith gwlyptir yn dilyn disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Bryn Hedydd yn plannu dros fil o goed ar y safle sydd bellach yn ffynnu gyda cheidwaid a gwirfoddolwyr cefn gwlad.

Mae contractwyr yn gwneud y gwaith terfynol ar lwybr troed newydd o amgylch ymyl y safle a fydd yn cysylltu gyda Llys Brenig a Ffordd Elan, gan ganiatáu i’r gymuned leol fwynhau natur unwaith y bydd y safle’n agored.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld y safle’n ffynnu yn dilyn yr holl waith caled a wnaed gan bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r ardal i gaffael y tir.

“Rwyf wedi gwylio’r hwyaid eisoes yn mwynhau’r safle natur cymunedol newydd hwn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gymuned leol yn mwynhau cerdded o amgylch y safle gan y bydd wirioneddol yn helpu eu hiechyd meddwl a’u lles corfforol ac yn eu galluogi i ddysgu am fywyd gwyllt lleol.

Ar y cyd â safleoedd cyfagos ym Maes Gwilym, The Green, Fern Way a’r parc cyfagos yn Ffordd Elan, bydd hefyd yn cyfrannu at rwydwaith o fannau gwyrdd i helpu i ddarparu coridorau o fywyd gwyllt o fewn y gymdogaeth faestrefol.

Bydd safle natur y Rhyl hefyd yn darparu buddion cymunedol eraill megis gwell ansawdd aer, oeri gwres trefol ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r ymdrech i leihau ôl troed carbon y sir hefyd drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno) gan goed.