Roedd yr adroddiad yn nodi bod Dolwen yn wasanaeth cyfeillgar a chroesawgar ac mae’r staff gofal yn adnabod pobl yn dda ac yn rhoi sylw i’w hanghenion.
Roedd yr adroddiad yn canmol arferion rheoli yn y cartref, gan ddweud bod rheolwyr y gwasanaeth yn monitro’n ofalus sut mae’r gwasanaeth yn perfformio ac mae eu systemau yn helpu i nodi a gweithredu yn dilyn unrhyw faterion a ganfyddir ganddynt. Mae’r unigolyn cyfrifol yn ymweld â’r gwasanaeth yn rheolaidd i sicrhau y darperir gofal a chefnogaeth o ansawdd da.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod staff yn dilyn cynlluniau clir a manwl, yn sicrhau y bodlonir anghenion iechyd a chefnogaeth a bod staff gofal yn glir o ran deilliannau personol unigolion ac yn eu cefnogi i’w cyflawni.
Wrth nodi’r trefniadau byw, roedd yr adroddiad yn sôn bod preswylwyr yn falch o ddangos eu hystafelloedd a sylwyd eu bod wedi dod â rhywfaint o’u heiddo eu hunain a lluniau o’u cartref i’w wneud yn gartrefol. Roedd yn nodi bod preswylwyr yn byw mewn cartref sydd â digon o le i eistedd ac ymlacio, mwynhau gweithgareddau neu gyfarfod ymwelwyr a bod y gegin yn y ganolfan ddydd yn cynnwys arwynebau y gellir eu haddasu gyda lle ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen:
“Rydym yn falch o dderbyn adroddiad mor gadarnhaol a’i fod yn adlewyrchu ac yn cydnabod yr ymdrech a wnaed gan staff a phreswylwyr i wneud y cyfleuster gofal hwn y lle ydyw.
Rwy’n falch iawn o’r amgylchedd rydym wedi’i greu yma yn Nolwen, a hoffwn ddiolch i’r holl staff gweithgar sy’n dod yma bob dydd i wneud y cartref gofal hwn yn gartref gwirioneddol i’n preswylwyr.”
Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Rwy’n falch iawn o weld bod un o’n cartrefi gofal wedi derbyn yr adroddiad disglair hwn gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Hoffwn sôn am y staff sy’n gweithio’n ddiflino yn y cyfleuster hwn i sicrhau bod gofal proffesiynol ac o’r ansawdd gorau pedair awr ar hugain yn cael ei ddarparu i’r preswylwyr sy’n byw yn Nolwen. Da iawn i bawb sydd wedi cyfrannu.”
Y llynedd, gwariodd y Cyngor £39 miliwn ar ddarparu pecynnau gofal a chefnogaeth i rai o oedolion mwyaf diamddiffyn yn y sir, mae hyn oddeutu 15% o gyllideb gyffredinol y Cyngor.