Bu’n rhaid i’r Cyngor ddod o hyd i £10.4m o arbedion yn rhan o gyllideb 2024/25, ac mae’r cynnig i adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau cyhoeddus yn y Sir yn un o’r cynigion ar gyfer arbedion a nodwyd.

Er nad oes yna ofyniad cyfreithiol bod y Cyngor ei hun yn darparu cyfleusterau cyhoeddus, mae Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn gofyn am dystiolaeth o adolygiad o anghenion y boblogaeth leol, ac mae strategaeth yn dangos sut y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio bodloni’r anghenion hyn.

O ganlyniad i hyn, mae'r Cyngor wrthi’n cynnal asesiad o anghenion ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn y Sir. Fe fydd hyn yn galluogi i ni wybod faint o gyfleusterau cyhoeddus sydd eu hangen yn Sir Ddinbych a bydd yn helpu’r Cyngor i lunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus addas.

Er mwyn llunio’r Strategaeth, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ac annogir preswylwyr, perchnogion busnes ac ymwelwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud.

Meddai Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n deall bod cyfleusterau cyhoeddus yn asedau sy’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan rannau penodol o’r gymuned. Serch hynny, y ffaith yw nad yw darparu cyfleusterau cyhoeddus yn ddyletswydd statudol, ac nid oes gennym ni bellach gyllideb ddigon mawr i’n galluogi ni i barhau i ddarparu gwasanaethau yr ydym ni wedi’u darparu yn y gorffennol.

“Yn yr ardaloedd lle mae darparu cyfleusterau cyhoeddus yn cael ei ystyried yn hanfodol, rydym ni’n gobeithio gweithio gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ystyried trefniadau gwahanol.

Nid ydym wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â chau unrhyw gyfleusterau cyhoeddus, a bydd unrhyw benderfyniad am hyn yn cael ei wneud gan ein Cabinet, yn dilyn adroddiad pellach i’n Pwyllgor Craffu Cymunedau.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i'r dudalen Sgwrs y Sir ar y wefan.