Mae cymorth ariannol nawr ar gael ar gyfer prosiectau amgylchedd cynaliadwy cymunedol ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy nawr yn agored ar gyfer ceisiadau.

Mae’r gronfa gyfalaf hon ar gael ar gyfer prosiectau yn yr AHNE sy’n edrych ar gyrraedd ffordd mwy cynaliadwy o fyw yng nghefn gwlad a rhoi cyfleoedd i gymunedau barhau’n iach yn gymdeithasol gyda lles economaidd cadarn.

Agorwyd y cynllun ar 1 Ebrill 2024 a bydd pot o £90,000 ar gael. Gellir gwneud cais am grantiau llai na £1,000 neu grantiau mwy o hyd at £25,000. Mae cyllid ar gael i sefydliadau gan gynnwys grwpiau cymunedol neu wirfoddol, awdurdodau lleol yn ogystal â’r sector preifat ac unigolion.

Mae’n rhaid i’r sector preifat ac unigolion ddangos bod gan eu prosiectau fudd cyhoeddus ehangach ac mae’n rhaid i’r prosiect bwriedig gwrdd â nod ac amcanion y cynllun a chael ei leoli yn neu â budd uniongyrchol i AHNE. Mae’n rhaid i brosiectau hefyd gydymffurfio â gofynion rheoleiddio perthnasol fel caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy yn bennaf ar gyfer cynlluniau ymarferol, arloesol, sy’n cynnwys cymunedau lleol a phobl ifanc mewn prosiectau yn AHNE Cymru. Y mathau o brosiectau fydd yn cael eu cefnogi yw’r rhai sy’n bodloni amcanion cynaliadwy y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ac AHNE.

“Mae’r amcanion hyn ar gyfer cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig, i hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd AHNE, i hybu lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol ac i hybu mwynhad AHNE mewn tawelwch.”

Rhoddir blaenoriaeth i gynigion prosiect sy’n:

  • Dangos arloesedd neu arfer orau.
  • Cynnwys cymunedau lleol a phobl ifanc
  • Ysgogi cyfraniadau gan ffynonellau eraill, mewn arian parod neu mewn nwyddau
  • Goresgyn rhwystrau i gynaliadwyedd a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o gynaliadwyedd.
  • Hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd neu ychwanegu gwerth at brosiectau cynaliadwyedd sy'n bodoli eisoes.
  • Codi ymwybyddiaeth o'r AHNE a chynhyrchu swyddi neu incwm i gymunedau, heb niweidio'r dirwedd.

I gael mwy o wybodaeth am y cyllid ac ynglŷn â sut i ymgeisio ewch i wefan Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.