Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn chwilio am Geidwaid Gwirfoddol a hoffai helpu ein tîm ofalu am ardal ddeheuol y dirwedd ddynodedig.
Mae Dyffryn Dyfrdwy yn ardal eiconig o olygfeydd gwirioneddol eithriadol, sy'n gyfoethog mewn treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol. Fel ceidwad gwirfoddol, gallwch ddod yn llysgennad i’r AHNE, rhannu eich cariad a’ch gwybodaeth am yr ardal hon, ac ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Dyffryn Dyfrdwy mor arbennig.
Bydd Ceidwaid Gwirfoddol wedi'u lleoli'n bennaf mewn dau o'r safleoedd mwyaf poblogaidd yn yr ardal; Castell Dinas Brân, y fryngaer hynafol sy'n edrych dros Langollen; a Rhaeadr y Bedol, campwaith Thomas Telford a man cychwyn Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Byddant yn cael gwisg benodol a byddant yn cyfarfod ac yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, gan rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu tîm Ceidwaid AHNE ar eu cyfnodau prysuraf, felly rydym yn chwilio am bobl a all ymrwymo i o leiaf cwpl o ddiwrnodau'r mis, naill ai ar benwythnosau neu ddyddiau'r wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol. Bydd pob Ceidwad Gwirfoddol newydd yn cael hyfforddiant cyn dechrau yn eu rolau.
Mae hwn yn gyfle gwych oherwydd gall mynd allan i’r awyr agored a phrofi ein hamgylchedd anhygoel o amgylch Dyffryn Dyfrdwy fod yn fuddiol iawn i helpu iechyd corfforol a meddyliol unigolion.
Mae hefyd yn waith pwysig iawn i warchod natur yn Nyffryn Dyfrdwy, i helpu i warchod yr ardal i bobl barhau i ymweld â hi a’i mwynhau.
Mae’r rôl yn agored i unrhyw un dros 18 oed, nid oes angen profiad blaenorol ond mae cariad at y dirwedd yn hanfodol! Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r tîm, byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth am y rolau ar nos Fawrth 23 Ebrill. I archebu eich lle, cysylltwch â Hannah Law. Y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb yw Dydd Gwener, 19 Ebrill 2024.
Mae’r Rhaglen Cymunedau a Natur wedi cael £292,772 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.