Mae’r Cyngor a Chlwb Golff y Rhyl wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau y bydd Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn yn cael ei gwblhau ar amser, a’r dyddiad gorffen yn dal ar y trywydd cywir i fod ddiwedd y flwyddyn nesaf.
Mae’r Cynllun wedi cael effaith sylweddol ar y Clwb Golff a’r Cwrs Golff, ac mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r Clwb Golff i sicrhau bod yr effaith hon mor fach â phosib’, a sicrhau hefyd bod y Clwb yn gallu parhau i weithredu ar ôl cwblhau’r prosiect.
O ganlyniad uniongyrchol i’r Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd, mae’r Clwb angen adeilad Clwb newydd, a bydd y gost yn cael ei thalu o’r gyllideb y cytunwyd arni’n wreiddiol ar gyfer y Cynllun. Mae hyn yn bosib’ gan fod digon o arian at raid wedi’i gynnwys yng nghyllideb y prosiect i dalu costau oedd yn gysylltiedig ag adeilad y Clwb. Y cynllun gwreiddiol oedd adnewyddu’r adeilad presennol, ond penderfynwyd nad oedd hynny’n ymarferol ar ôl archwilio’r adeilad yn fwy manwl.
Mae 85% o’r cyllid ar gyfer y Cynllun Amddiffyn Arfordirol wedi dod gan Lywodraeth Cymru, gyda 15% o gyllid cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda’r Clwb Golff a’i bartneriaid i sicrhau bod y Cynllun Amddiffyn Arfordirol yn cael ei gyflawni o fewn y terfynau amser a gynlluniwyd ac o fewn y gyllideb a sicrhau nad oes effaith andwyol ar gymunedau lleol. Bydd y cynllun llifogydd hwn yn gwarchod dros 2,000 o adeiladau rhag llifogydd posib’ ac erydiad yr arfordir am y 100 mlynedd nesaf.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnal perthynas waith dda gyda Chlwb Golff y Rhyl drwy gydol cyfnod y gwaith adeiladu, ac mae’r Cyngor yn deall yn iawn bod y gwaith wedi cael effaith fawr ar y clwb a’i allu i weithredu. Mi hoffem ni ddiolch i’r Clwb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod yma.
Rydyn ni rŵan yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gwblhau’r prosiect mor fuan â phosib’, fel bod adeiladau’n cael eu gwarchod rhag llifogydd arfordirol a bod y Clwb yn gallu dychwelyd i weithredu fel arfer.
Dywedodd Dave Miller, Cyfarwyddwr Cyllid Clwb Golff y Rhyl:
“Bydd adeilad Clwb newydd yn ased arbennig fydd yn dod â nifer o fanteision i’r gymuned yn yr ardal. Bydd yn ganolbwynt cymunedol fydd yn gallu cynnal digwyddiadau a hefyd yn gartref ar newydd wedd i golffwyr y Rhyl.
Rydyn ni’n diolch i’r Cyngor am eu cydweithrediad, ac yn edrych ymlaen at groesawu ein golffwyr yn ôl i chwarae yn nhymor newydd y gwanwyn.”