Yn dilyn cyhoeddi cyllideb y gwanwyn, mae £20 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych fel rhan o’r fenter Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, er mwyn llunio cynllun hirdymor i gefnogi’r Rhyl.

Bydd y cyllid tebyg i gronfa waddol yn rhoi sicrwydd ar gyfer cyflawni prosiectau dros gyfnod deng mlynedd y rhaglen, a hyblygrwydd i fuddsoddi mewn ymyriadau sy’n seiliedig ar anghenion a dymuniadau lleol.

Bydd y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Tref a ffurfiwyd yn ddiweddar, i gydweithio â budd-ddeiliaid lleol, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwireddu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dref.

Mae’r £20 miliwn ychwanegol hwn o Gyllid Ffyniant Bro ar gyfer y Rhyl, yn ychwanegol i’r £35 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro sydd eisoes wedi’i ddarparu i Sir Ddinbych ar draws ardaloedd etholaeth De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd, yn dangos hyder amlwg yng Nghabinet a Rheolwyr y Cyngor i gyflawni rhaglen newid, cefnogi a datblygu ein cymunedau.