llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2022

Eisteddfod yr Urdd arbennig yn gadael gwaddol

Mae'r Cyngor wedi bod yn edrych yn ôl ar lwyddiant Eisteddfod yr Urdd a’r gobaith yw y bydd y digwyddiad mawr yma’n gadael gwaddol yn y sir ar gyfer pobl ifanc, y Gymraeg a’r economi leol am amser maith.

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal ar safle Fferm Kilford ar gyrion Dinbych yn ystod hanner tymor Sulgwyn (30 Mai tan 4 Mehefin), ddwy flynedd yn ddiweddarach na’r dyddiad gwreiddiol oherwydd Covid.

Rŵan, mae’r Cyngor wedi bod yn edrych ar lwyddiant yr Eisteddfod a sut mae’r sir, yn cynnwys plant a phobl ifanc, wedi elwa ohoni.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan: “Roedd hwn yn gyfle rhagorol i ddangos Sir Ddinbych fel lle gwych i bobl ymweld ar wyliau ac ymweld am y diwrnod, yn ogystal â bod yn gyfle gwych i’n plant a’n pobl ifanc ni.

“Roedden ni’n falch iawn o weithio gyda’r Urdd a chymunedau lleol i wneud yr Eisteddfod yma’n un i’w chofio ac mae’r ffaith ei bod wedi torri record am y niferoedd yn dweud cyfrolau am faint o waith ac ymdrech oedd ynghlwm â chynnal digwyddiad mor fawr.

“Roedd Sir Ddinbych i’w gweld a’i chlywed ar deledu, radio a chyhoeddiadau cenedlaethol ac ar y cyfryngau ar-lein ac roedd wir yn rhoi cyfle i’r sir hyrwyddo ei hatyniadau, ei threfi a’i phentrefi hanesyddol a’r doreth o fusnesau sydd yma.

“Wrth gwrs, mae’r sector llety i dwristiaid wedi elwa’n fawr o gynnal yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych, ac roedd nifer o fusnesau’n dweud eu bod yn llawn yn ystod yr wythnos. Y gobaith yw y bydd busnesau eraill wedi cael wythnos lwyddiannus ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld canlyniad gwaith ymchwil a fydd yn dangos sut mae’r ardal wedi elwa’n economaidd o gynnal yr Eisteddfod.”

Roedd gan Sir Ddinbych fwy o gystadleuwyr nag unrhyw sir arall drwy Gymru gyfan. Cafodd cannoedd o blant a phobl ifanc gyfle i ddangos eu doniau mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, yn cynnwys canu, llefaru, drama, dawns, cystadlaethau grŵp, celf a chrefft a llawer mwy.

Bu dros ddau gant o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn dwy sioe a noddwyd gan y Cyngor. Cafodd sioe ‘Fi ’di Fi’ ei hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Angharad Beech ac Ynyr Llwyd, y ddau gynt o Brion ac yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd. Bu cast o ddisgyblion o Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Brynhyfryd yn serennu ar y llwyfan o flaen pafiliwn oedd dan ei sang.  

Roedd cyngerdd ysgolion cynradd ‘Ni yw y Byd’ yn cynnwys perfformiadau o glasuron Cymraeg a chaneuon roc a phop poblogaidd. Bu dros 150 o ddisgyblion o bob cwr o’r sir yn perfformio rhai o’r clasuron yma, gan ymuno gyda’i gilydd i berfformio ‘Hei Mistar Urdd’ i gloi’r cyngerdd.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg a Gwasanaethau Plant: “Roedd hwn yn brofiad mor wych i’n plant a’n pobl ifanc ni. Mi wnaeth yr ysgolion ac aelwydydd yr Urdd wneud ymdrech aruthrol yn y cystadlaethau ac roedd Sir Ddinbych yn un o’r siroedd oedd yn perfformio orau yn gyson drwy gydol yr wythnos.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn mae’r pobl ifanc yma wedi’i gyflawni ac o gefnogaeth eu rhieni, eu gwarcheidwaid a’r rhai sydd wedi treulio oriau lawer yn eu hyfforddi nhw i fod yn barod at y llwyfan cenedlaethol. Bydd gweld gynyrchiadau mor arbennig â’m llygaid fy hun a chael ymdeimlad o’r balchder roedd y cynulleidfaoedd yn ei deimlo’n aros gyda mi am amser maith.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Cabinet Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ffordd wych o ddangos y Gymraeg a diwylliant Cymru a’r cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

“Mae angen i ni sicrhau bod ymroddiad yr Urdd, Cyngor Sir Ddinbych a gwaith arbennig y pwyllgorau codi arian yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill ledled y sir i edrych ar y ffordd orau o fanteisio ar y don newydd yma o ddiddordeb yn yr iaith a pharhau i ddarparu cyfleoedd i gymunedau ei defnyddio.”

Dyma gipolwg byr ar yr hyn a ddigwyddodd i ni yn ystod yr wythnos

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...