llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Ardal natur newydd yng Ngymuned Henllan yn datblygu

Mae nodweddion wedi’u hychwanegu at ardal newydd yn Henllan i helpu i gefnogi natur a’r gymuned.

Mae gwaith yn datblygu yn Ardal Natur Cymuned Henllan, a ddechreuodd yn ôl yn y gwanwyn.

 

Mae’r ardal yn un o bedair ardal natur gymunedol newydd – ynghyd â rhai tebyg yn y Rhyl, Llanelwy a Chlocaenog – mae timau Gwasanaeth Cefn Gwlad a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych yn eu creu yn y sir eleni i hybu manteision ar gyfer bywyd gwyllt lleol a lles trigolion.

Mae’r gwaith ar Ardaloedd Natur Cymunedol a gwaith creu coetiroedd mewn ysgolion ar hyd a lled y sir eleni wedi cael arian drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Er mwyn rhoi bywyd newydd i’r safle, ymunodd disgyblion Ysgol Henllan gyda cheidwaid y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr i weithio ar y safle natur newydd ar dir y tu ôl i Ffordd Meifod trwy helpu i blannu mwy na 1,700 o goed.

Mae gwaith wedi’i gwblhau bellach ar y pwll canolog ar y safle, sydd wedi’i leinio a’i ffensio ac sy’n casglu dŵr.

Mae’r glannau wedi’u cerflunio a gaeafleoedd wedi cael pridd glân wedi’i fewnforio o un o safleoedd eraill yr Ardal Natur Gymunedol.

Mae llwybrau troed ag wyneb carreg ar y safleoedd bellach hefyd a nodwedd gwlyptir bas ychwanegol rhwng mynedfa’r safle a llannerch coetir y dyfodol a ffurfiodd yn ystod y gwaith cloddio wedi’i gadw a’i fabwysiadu i mewn i’r cynllun.

Mae byrddau a meinciau picnic wedi’u gosod ar y safle ac mae gwaith ar ystafell ddosbarth awyr agored bron â’i gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld y safle hwn yn datblygu’n dda ar ôl yr holl waith mae’r disgyblion a’r gwirfoddolwyr wedi’i wneud wrth blannu’r coed.

“Bydd yr ardal yn lle gwych i breswylwyr lleol hen ac ifanc fwynhau a dysgu o’r bywyd gwyllt ar y tir a bydd yn cynnig buddion eraill gan gynnwys ansawdd aer gwell, oeri gwres trefol a chyfleoedd i gefnogi lles cymunedol, corfforol a meddyliol.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...