Mae Prosiect Dôl Blodau Gwyllt Sir Ddinbych yn ehangu
Mae Prosiect Dôl Blodau Gwyllt y Cyngor yn ehangu ar ôl prosiect peilot llwyddiannus i gefnogi bioamrywiaeth barhaus y llynedd, yn dilyn datganiad argyfwng hinsawdd ac ecolegol y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019.
Bydd 30 o ddolydd blodau gwyllt ychwanegol yn cael eu creu eleni, gan ddod â chyfanswm y safleoedd a reolir ar gyfer blodau gwyllt lleol i 55 – gan gyfrannu at uchelgeisiau’r Cyngor i wella’r cyfoeth o rywogaethau a geir yma. Mae’r safleoedd hyn, ynghyd ag 11 Gwarchodfa Natur Ymyl Ffordd y Cyngor, yn cyfrannu at bron i 60 erw o gynefinoedd blodau gwyllt brodorol i’r sir.
Mae'r Gwaith yn fenter tair blynedd sy’n anelu at adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, gan ymgysylltu pobl, cymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn gweithredu ymarferol a chynllunio strategol er budd Cymru iach, gydnerth â chyfoeth o natur.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor: “Mae’r safleoedd yn cael eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir ar Ymylon Ffyrdd Plantlife sy’n atal torri gwair rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan ganiatáu digon o amser i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu. Ychwanegodd, “Mae trefniadau torri a chasglu ar waith i leihau ffrwythlondeb pridd ac i ddarparu’r blodau gwyllt gyda’r amgylchiadau gorau posib. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu monitro a’r borderi yn cael eu torri i sicrhau nad ydyn nhw’n effeithio ar y rhwydwaith priffyrdd a diogelwch ar y ffyrdd.”
Mae’r prosiect bellach yn cynnwys safleoedd ym Mhrestatyn, y Rhyl, Gallt Melyd, Dyserth, Rhewl, Dinbych, Henllan, Nantglyn, Llanferres, Llanrhaeadr, Pwllglas, Rhuthun, Corwen, Cynwyd a Llangollen a fydd yn cael eu ‘torri’n llawn’ ddechrau mis Medi.
Ers y 1930au mae’r Deyrnas Unedig wedi colli bron i 97% o’i chynefinoedd blodau gwyllt, bron i 7.5 miliwn erw, gydag ond 1% o’n cefn gwlad erbyn hyn yn darparu cartrefi hanfodol i bryfaid peillio fel gloÿnnod byw a gwenyn. Yn ei dro mae hyn wedi effeithio ar fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y dolydd yma ar gyfer bwyd a lloches, fel draenogod, moch daear ac ysgyfarnogod, yn ogystal ag adar fel y gornchwiglen, corhedydd y waun a’r ehedydd. Mae’r prosiect yma’n gam pwysig i helpu i gildroi'r dirywiad yma ac i gynyddu'r cyfoeth o rywogaethau a geir yn ein sir.
Gyda ‘No Mow May' yn agosáu ac arolwg ‘Every Flower Counts’ Plantlife yn cael ei gynnal o 22 tan 31 Mai, rŵan ydi'r amser perffaith i chi gymryd rhan hefyd! Fe allwch chi helpu drwy adael rhan o’ch gardd i dyfu’n wyllt. Gyda 15 miliwn o erddi ym Mhrydain mae gan ein lawntiau’r potensial i ddod yn ffynonellau neithdar mawr.
Mae rhagor o wybodaeth, yn ogystal â manylion ynglŷn â chymryd rhan yn yr arolwg, ar gael yn: https://www.plantlife.org.uk/everyflowercounts/