llais y sir

Llais y Sir: Mai 2021

Gwarchodfa natur newydd Llangollen yn agor i ymwelwyr

Mae cyn safle tirlenwi ar gyrion Llangollen wedi cael adfywiad.

Mae'r Cyngor a thîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cydweithio gydag arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Datblygiad Gwledig Ewropeaidd, i greu gwarchodfa natur newydd ar hen safle tirlenwi yn Wenffrwd – ar gyrion Llangollen.

Bellach gall ymwelwyr ddefnyddio maes parcio bychan yn y warchodfa natur a mynd i grwydro o amgylch y safle newydd trwy ddilyn y llwybr 0.5 milltir sy’n troelli trwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn cynnig golygfeydd o’r Afon Dyfrdwy ac ar draws y dyffryn.

Dywedodd Huw Rees, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth: “Mae’n anodd dychmygu erbyn hyn bod y darn hwn o dir yn ganlyniad degawdau o dderbyn sbwriel cartrefi o ardal Llangollen. Cafodd hyd at 75,000 tunnell ei gludo yma bob blwyddyn nes iddo orffen derbyn sbwriel yn y 1980au, er bod yr orsaf drosglwyddo ar gael i’r boblogaeth leol hyd 2008.

“Mae natur wedi gwneud gwaith gwych wrth ail-hawlio’r safle hwn. Mae’r dolydd blodau gwyllt yn darparu bwyd i beillwyr a morgrug dolydd melyn sy’n creu’r twmpathau morgrug y byddwch yn eu gweld. Mae’r mieri trwchus yn cynnig mannau diogel i adar a mamaliaid.

"Mae hi dal yn ddyddiau cynnar ac yn y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i weithio ar greu cysylltiadau o’r safle hwn i’r Gamlas ac yn ôl i’r Ganolfan Iechyd yn Llangollen ar hyd yr hen reilffordd. Byddwn hefyd yn ychwanegu amrywiaeth i’r safle trwy blannu coed a chreu ardaloedd blodau gwyllt newydd."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...