Diwrnod agored rhithiol cynllun gofal ychwanegol gwerth £12m yn Ninbych
Mae trigolion Sir Ddinbych wedi cael darganfod mwy am gynllun gofal ychwanegol newydd lle gall y preswylwyr fyw’n annibynnol mewn fflatiau cyfforddus, trwy ddiwrnod agored rhithiol.
Datblygwyd Awel y Dyffryn, Dinbych, gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, y cynllun mwyaf uchelgeisiol o’i fath yn hanes y grŵp.
Mae’r cynllun bron yn barod a bydd y preswylwyr cyntaf yn symud yno yn nhymor yr hydref.
Cynhaliwyd y diwrnod agored rhithiol dros Zoom a roedd cyfle i gael ‘taith’ o gwmpas un o’r fflatiau, cyfle i weld fideo o’r math o adnoddau a gynigir a chyfle i holi staff Grŵp Cynefin am y cynllun.
Bydd pobl 60 oed a throsodd sy’n byw yn Sir Ddinbych yn cael blaenoriaeth wrth osod y fflatiau a bydd Awel y Dyffryn yn cynnig cymuned fywiog, glos, yn ogystal â gofal a chefnogaeth 24 awr y dydd.
Yn y cynllun £12m mae 66 o fflatiau o fewn gerddi hardd. Caiff y tenantiaid bob cyfle i fwynhau bywyd cymdeithasol difyr. Gallant gwrdd â’i gilydd mewn ardaloedd cymunedol fel stafelloedd cynnal gweithgareddau ac, ar yr un pryd, fwynhau preifatrwydd eu fflat eu hunain.
Mae adnodd ychwanegol i ffrindiau a theulu aros hefyd mewn llety pwrpasol i westeion o fewn y safle.
Meddai pennaeth gwasanaethau tai Grŵp Cynefin, Noela Jones: “Mae pawb yn Grŵp Cynefin yn gyffrous dros ben ynghylch y datblygiad newydd hwn. Edrychwn ymlaen at groesawu preswylwyr drwy ddrws Awel y Dyffryn. Rydym yn hyderus y bydd y fflatiau modern a’r cyfleusterau rhagorol, fel y gerddi, yn gwneud iddynt deimlo’n gartrefol iawn.
“Mae rhai pobl eisoes wedi mynegi dymuniad i fyw yn Awel y Dyffryn. Mae’r mathau hyn o gynlluniau yn hanfodol yn ein cymuned am eu bod yn rhoi cyfle i bobl hŷn barhau i gadw eu hannibyniaeth gyda sicrwydd ar yr un pryd y bydd gofal a chefnogaeth bob amser wrth law os byddant ei angen.
“Yn ogystal â’r fflatiau, ar y safle bydd siop drin gwallt, bwyty, lle golchi dillad a stafelloedd cynnal gweithgareddau, y rhain oll yn helpu i hybu iechyd a lles.
“Mae’r cyfyngiadau COVID yn anffodus yn golygu na allwn gynnal diwrnod agored o’r math arferol yn Awel y Dyffryn, ond fe wnawn yn siŵr y bydd pawb sy’n dod i’r digwyddiad rhithiol yn gweld holl rinweddau’r cynllun.”
Mae 42 o fflatiau dwy lofft a 24 o fflatiau un llofft yn Awel y Dyffryn, pob un yn cynnwys ystafell ymolchi, cegin a lolfa. Dyma’r pumed datblygiad gofal ychwanegol gan Grŵp Cynefin, sydd â datblygiadau tebyg hefyd yn Y Bala, Porthmadog, Caergybi a Rhuthun.
Codwyd Awel y Dyffryn gan gwmni RL Davies o Ogledd Cymru. Golygodd fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol. Roedd 80% o’r is-gontractwyr a’r prif gyflenwyr nwyddau wedi eu lleoli o fewn 30 milltir i’r cynllun hwn a manteisiodd prentisiaid lleol o Goleg Llandrillo ac eraill dan hyfforddiant o’r profiad o weithio arno.
Dywedodd Phil Gilroy, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin ar y prosiect pwysig hwn.
“Bydd Awel y Dyffryn yn helpu preswylwyr hŷn Sir Ddinbych i gynnal a gwella eu hannibyniaeth tra hefyd yn cefnogi ein cymunedau i fod yn fwy gwydn.
“Rydym yn annog yr holl breswylwyr sydd â diddordeb i fynychu'r diwrnod agored rhithiol i ddysgu am y gefnogaeth anhygoel y bydd y cyfleuster newydd, gwych hwn yn ei gynnig iddynt.”
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau gwybod rhagor am Awel y Dyffryn, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org