llais y sir

Llais y Sir: Mai 2021

Pum mlynedd ers datblygu adeilad newydd Ysgol Uwchradd Y Rhyl

Mae Ysgol Uwchradd y Rhyl yn dathlu pum mlynedd ers agor yr adeilad newydd.

Agorwyd yr ysgol gyntaf ar y safle ym 1901 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Wedi dymchwel yr hen adeilad agorwyd un newydd ag amrywiaeth o gyfleusterau modern gan gynnwys salonau trin gwallt ac ystafelloedd adeiladu, yn ogystal â’r byrddau rhyngweithiol diweddaraf, stiwdio recordio a gliniaduron i’r plant sydd wedi bod yn hollbwysig, yn enwedig felly yn ystod y pandemig. 

Meddai Claire Armistead, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig iawn wrth agor adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Roedd yn dangos i’r plant ac i’r gymuned yn y dref eu bod yn haeddu rhywbeth fel hyn, rhywle sy’n llawn o gyfleoedd a photensial. Mae’r ffordd rydym yn addysgu’r plant wedi newid yn llwyr a gallwn gynnig llawer o wahanol bynciau, sy’n paratoi ein plant ar gyfer y dyfodol.

“Yn yr hen adeilad roedd gennym ystafelloedd dosbarth a choridorau – rhywle y byddai rhywun yn eich addysgu, ond nid rhywle y gallai’r plant ddysgu a thyfu ynddo. Mae’r adeilad newydd yn galluogi ein plant i fod y dysgwyr gorau y gallant fod. Mae rhywun yn medru teimlo eu hegni a’u huchelgais yn llifo ar hyd y coridorau.

“Anghofia i fyth mor bwysig yw’r adeilad newydd hwn i’r Rhyl, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod yr ysgol fel sefydliad dysgu yn aros mor rhyfeddol ag y mae heddiw. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar am yr adnodd bendigedig hwn i blant y Rhyl.”

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Addysg y Cyngor: “Ers pum mlynedd mae adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi cynnig cyfleusterau a chyfleoedd dysgu ardderchog i’r disgyblion.

“Mae hyn wedi helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial, ac wedi rhoi’r profiad addysgol gorau posib iddynt. Hoffwn ddiolch i’r staff am eu holl waith caled dros y pum mlynedd diwethaf, a dymuno’r gorau i’r holl ddisgyblion yn y dyfodol.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...