llais y sir

Llais y Sir: Mai 2022

Cyfleoedd i wirfoddoli yn y Blanhigfa Goed

Mae menter newydd yn Sir Ddinbych yn agor ei drysau i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn bioamrywiaeth.

Mae planhigfa goed leol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy, yn anelu i gynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol bob blwyddyn, ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect ENRaW Partneriaethau Natur Lleol Cymru a’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae’r tîm ar y safle eisoes yn gweld ffrwyth eu llafur wrth i’r hadau blodau gwyllt brodorol cyntaf egino yn y blanhigfa.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.

Yn awr mae’r tîm yn croesawu unrhyw wirfoddolwyr i’r safle sydd â diddordeb yn yr amgylchedd lleol, unigolion sy’n frwd dros dyfu planhigion, neu’r unigolion hynny sydd eisiau dysgu mwy am y prosiectau plannu coed a blodau gwyllt y mae’r Cyngor yn eu cynnal.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn falch o’r gwaith bioamrywiaeth ar y safle yma ac yn awyddus i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i’r unigolion hynny sydd â diddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud yma ar gyfer yr amgylchedd lleol.  Mae’n gyfle gwych i ddysgu mwy am fioamrywiaeth Sir Ddinbych gan ein tîm profiadol yn y blanhigfa.

“Rydym yn awyddus iawn i groesawu gwirfoddolwyr i’n cynorthwyo â chasglu hadau, ail-botio a thasgau cyffredinol eraill yn y blanhigfa yn ymwneud â’n nod i ddarparu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt a 5,000 o goed bob blwyddyn. 

“Bydd y blanhigfa hefyd yn cynorthwyo i ddarparu coed a blodau gwyllt i grwpiau cymunedol lleol i roi hwb i fioamrywiaeth.”

Os hoffech chi wirfoddoli, cysylltwch â bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...