Dosbarth Coetir yn cynnig cartref i famaliaid
Bydd y safle coetir newydd yn cynnig thema addysgol nosol.
Mae gwaith wedi cael ei gwblhau ar hen gae ysgol gynradd ar Stryd Llanrhydd, Rhuthun i sefydlu coetir newydd.
Fel rhan o Brosiect Creu Coetir Sir Ddinbych, mae 800 o goed eisoes wedi cael eu plannu ar y safle eleni sy’n cyfrannu at yr ymdrech parhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.
Hefyd mae 5,000 o goed wedi cael eu plannu eleni er mwyn creu coetiroedd newydd ym Maes Gwilym, Cae Ddol a Maes Esgob.
Mae’r coed newydd hyn yn ychwanegol i’r 18,000 o goed a gaiff eu plannu ar draws y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2017-22 ar gynnal amgylchedd naturiol a chynnal a gwella bioamrywiaeth o fewn y sir.
Mae nifer o blant ysgol wedi helpu i blannu’r coed ar eu hen gae ysgol yn Rhuthun.
Mae dosbarth awyr agored bellach wedi cael ei chreu ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth a rhoi help llaw i breswylwyr nosol lleol.

Adeiladwyd y dosbarth â phren gan y crefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi ymgorffori nodwedd unigryw.
Mae’r strwythur yn cynnwys ‘To Ystlumod’ sydd wedi cael ei ddylunio’n arbennig i ddarparu’r nodweddion sydd eu hangen ar ystlumod i nythu yn ystod y dydd. Dros amser, wrth i’r cynefinoedd ddatblygu ar y safle, gobeithir y bydd y strwythur yn cefnogi poblogaethau lleol y creaduriaid prin hyn.
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr, plant ysgol ac aelodau lleol sydd wedi gweithio ar safle Llanrhydd yn ogystal â phob safle i helpu i barhau i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth ar draws Sir Ddinbych.
“Rydym yn gweithio’n galed i roi bioamrywiaeth wrth wraidd ein cynlluniau ac mae hyn wedi ein caniatáu i addasu’r cynllun er lles pobl yn ogystal â bywyd gwyllt.
“Bydd yr ychwanegiad gwych hwn at safle Llanrhydd wirioneddol yn helpu plant i ddeall bioamrywiaeth eu cymuned leol a’r hyn y gallant barhau i’w wneud i helpu’r amgylchedd.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r saer am osod y To Ystlumod anhygoel, a gobeithiwn y bydd y boblogaeth leol yn elwa’n fawr ohono ac y bydd y dosbarth yn cynnig rhywle unigryw i hyrwyddo bioamrywiaeth ymhlith yr ifanc.”

Gwybodaeth Ychwanegol:
- Ym mis Gorffennaf 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol. Cymeradwywyd Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021, a oedd yn ymrwymo i fod yn Ddi-Garbon Net ac yn Gyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.
- Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon y Cyngor o sawl ffynhonnell.
- Nid yw hi’n bosibl cyrraedd di-garbon net drwy leihau allyriadau’n unig. Bydd yn rhaid gosod hyn yn erbyn unrhyw allyriadau carbon na allwn eu dileu. Bydd y Prosiect Creu Coetir hwn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at y swm o garbon a gaiff ei ddal a’i storio (neu’i amsugno).