llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Cadeirydd y Cyngor yn ymweld ag enillwyr Cystadleuaeth Celf Ysgolion

Ymwelodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, ag enillwyr ei gystadleuaeth celf i ysgolion, a gafodd ei lansio mewn partneriaeth ag un o’i elusennau enwebedig, NSPCC Cymru, Hwb Gogledd Cymru, Prestatyn. Ymwelodd y Cadeirydd â’r ysgolion, a chyflwynwyd tystysgrifau, medalau a gwobrau iddyn nhw am eu hymdrechion arbennig.

Nod y gystadleuaeth o’r enw LLES - ‘Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?’, yw codi ymwybyddiaeth o wasanaeth ‘Childline’ NSPCC, ac yr oedd yn gofyn i blant dan 12 oed dynnu llun yr hyn sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.

Ar ôl cael dros 560 o geisiadau, cafodd yr ysgolion a ddaeth yn fuddugol eu cyhoeddi cychwyn mis Chwefror.

Roedd yr ysgolion llwyddiannus yn cynnwys Ysgol Christchurch, Ysgol y Parc, Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Melyd, Ysgol Uwchradd Dinbych a chafodd Ysgol Gymunedol Bodnant deilyngdod arbennig.

Roedd y gwaith celf a ddaeth i’r brig yn cynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn cynnwys llun o’r traeth, darlun o lyfrgell ysgol a golygfa o daith gerdded i fyny allt yn ystod machlud haul.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts: “Mae’n wych gallu cyfarfod â rhai o’r artistiaid talentog y tu ôl i rai o’r gweithiau celf anhygoel a gafodd eu cyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth hon.

"Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu defnyddio’r gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth am wasanaeth ‘Childline’ NSPCC, oherwydd mae’n llinell gymorth hanfodol i bob plentyn a pherson ifanc allu siarad am eu hiechyd meddwl.”

Mae rhestr o’r holl enillwyr, a’u gwaith celf i’w gweld yma: www.denbighshireenrichment.com

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...