Mae gwaith carbon isel wedi helpu ysgol gynradd yn Ninbych i fod yn fwy effeithlon o ran ynni.
Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi helpu Ysgol Twm o’r Nant i wella effeithlonrwydd ynni a sicrhau costau is yn yr hirdymor yn dilyn gwaith carbon isel yn adeilad yr ysgol.
Mae'r tîm wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor yn cynnwys nifer o ysgolion, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.
Fe asesodd Tîm Ynni y Cyngor yr adeilad er mwyn helpu i ganolbwyntio ar ba feysydd o ddefnydd ynni y gellir eu gwella drwy gyflwyno technoleg newydd ar y safle.
Roedd hyn yn cynnwys gosod system panel solar (14.94KW) ar do’r ysgol. Bydd pob cilowat a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan Ysgol Twm o’r Nant yn arbed tua 22 ceiniog. Nid yn unig y mae’r capasiti yma’n lleihau allyriadau carbon yn sylweddol, ond hefyd yn lleihau straen ar isadeiledd y grid lleol.
Cafodd batris storio hefyd eu gosod wrth ymyl y system panel solar er mwyn helpu’r ysgol i storio ynni ychwanegol a gynhyrchir gan y paneli er mwyn ei ddefnyddio ar y safle.
Gosodwyd goleuadau LED y tu mewn i’r ysgol a fydd hefyd yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau costau defnyddio ynni.
Disgwylir i’r gwaith hwn arbed tua 13664kWh yn flynyddol, dros 5.6 tunnell o allyriadau carbon a thros £5,997.00 y flwyddyn mewn llai o gostau ynni, gan dalu’n ôl yr hyn sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfnod byr o amser.
Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Mae hi wedi bod yn wych dod â darnau amrywiol o dechnoleg ynni ynghyd i helpu i leihau defnydd, allyriadau carbon a chostau hirdymor yr ysgol. Fe fydd hyn hefyd yn helpu i wella amgylchedd yr adeilad ar gyfer disgyblion a staff.”
Fe ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau ac rydym ni’n diolch i’r Tîm Ynni am eu gwaith rhagweithiol parhaus a’r gefnogaeth gan ddisgyblion a staff Ysgol Twm o’r Nant am alluogi i’r prosiect hwn gael ei gwblhau.”