Yn ddiweddar, bu trigolion lleol sydd yn derbyn Cefnogaeth Iechyd Meddwl drwy'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn prosiect i drawsnewid eu hadeilad Iechyd Meddwl Cymunedol yn Ninbych, Tîm Dyffryn Clwyd.

Tarddiad y syniad oedd trigolion yn rhannu adborth gyda staff, a’r casgliad oedd bod yr adeilad yn rhy ffurfiol a chlinigol, gan amharu ar y ffordd yr oeddynt yn ymgysylltu â’r gwasanaeth.

Roedd y ddau wasanaeth eisiau sicrhau bod trigolion yn teimlo bod eu barn yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, ac roeddynt yn teimlo y byddai’n beth da petai trigolion yn ymgymryd â pherchnogaeth y gofod maen nhw’n ei ddefnyddio.

Yn ystod sesiynau ‘Lles drwy Gelf’ sy’n cael eu hariannu gan grant Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymunedol Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru, bu’r dinasyddion yn datblygu darnau o gelf i addurno’r ystafelloedd, gan ddefnyddio sawl cyfrwng yn cynnwys inc, cyanotype a hyd yn oed potiau planhigion oedd wedi'u gwehyddu.

Mae wal nodwedd i’w gweld mewn dwy ystafell sydd wedi’u paentio mewn lliwiau cynhesach, tawelol, a rhoddwyd cyfle i ddinasyddion ailenwi’r ystafelloedd ymgynghori yn yr adeilad hefyd, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thema natur y prosiect. Mae’r ystafelloedd bellach wedi cael eu henwi ar ôl tri mynydd lleol, sef Moel Famau, Moel Arthur a Moel Fenlli.

Fe sicrhawyd arian hefyd i brynu dodrefn newydd ar gyfer yr ystafelloedd a fydd yn help i foderneiddio’r gofod yma.

Mae’r broses o gymryd rhan yn y prosiect yma wedi galluogi trigolion i weithredu 5 Ffordd at Les, sy’n helpu iddynt gynnal Lles Meddyliol drwy gysylltu ag eraill, I Roi, I Sylwi, I fod yn Weithgar ac I Ddysgu Rhywbeth Newydd. Y gobaith yw y bydd yn helpu i newid canfyddiad trigolion o’r adeilad a’u hailgysylltu gyda’r gwasanaeth mewn modd mwy cadarnhaol.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion: “Mae’r trawsnewidiad o Dîm Dyffryn Clwyd dan arweiniad trigolion yn ysbrydoledig, gan ddangos effaith ryfeddol awdurdodi unigolion i helpu i lywio’r gwasanaethau lleol maen nhw’n eu defnyddio. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych arall o ymgysylltu a chydweithio yn arwain at newid cadarnhaol yn y gymuned.”