Cwnsela cyflogaeth newydd i gefnogi pobl ddi-waith yn Sir Ddinbych
Mae RCS yn falch o fod wedi cael dyfarniad drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer rhaglen gwnsela newydd ar gyfer pobl ddi-waith a phobl sy’n anactif yn economaidd yn Sir Ddinbych.
Gan weithio’n agos gyda rhaglen Barod Sir Ddinbych yn Gweithio, bydd Gweithio’n Iach Sir Ddinbych yn cefnogi pobl ddi-waith a phobl sy’n anactif yn economaidd yn Sir Ddinbych, a’u prif rwystr rhag cyflogaeth yw cyflwr iechyd meddwl hirdymor.
Byddant yn derbyn hyd at naw sesiwn o gefnogaeth cwnsela gyfrinachol drwy dîm cwnsela mewnol RCS a darparwyr cysylltiedig. Bydd y gefnogaeth yn helpu cyfranogwyr i:
- Ddatblygu strategaethau ymdopi
- Gwella hunan-barch
- Meithrin gwydnwch
- Ymgysylltu’n effeithiol â chymorth cyflogadwyedd a symud yn nes at y farchnad lafur.
Mae adborth blaenorol wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol:
“Teimlaf fy mod wedi cael gwrandawiad a gofal ac roedd y cwnsela yn eithriadol o ddefnyddiol.”
“Cefais fwynhad mawr a dysgais ffyrdd da o ymdopi.”
“Gwnaeth wirioneddol fy helpu yn ôl i gyflogaeth ar ôl blynyddoedd o salwch meddwl.”
Mae RCS yn edrych ymlaen at weithio gyda Barod a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu elwa o’n cymorth arbenigol.
Sut i gyrchu'r gwasanaeth
Os fyddech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn elwa o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch heddiw workwell@rcs-wales.co.uk neu ffoniwch 01745 336442.