llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Gwobr chwenychedig i raglen hyfforddiant digidol llyfrgelloedd

Mae tîm sydd y tu ôl i raglen hyfforddiant digidol a arweinir gan Brif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn gwobr chwenychedig.

Mae’r rhaglen hyfforddiant a datblygu, Estyn Allan, wedi cael cydnabyddiaeth gan CILIP Cymru Wales am ei gwaith arloesi a meithrin hyder yn 2021 ac mae wedi ennill Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru gan CILIP Cymru Wales.

Ariannwyd Estyn Allan gan grant gwerth £169,950 o Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru a sicrhawyd gan Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru.  Daeth Estyn Allan i fodolaeth ym mis Ionawr 2021 ac mae wedi datblygu 33 o hyfforddeion o bob un o’r 22 o wasanaethau llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru.

Oherwydd effaith pandemig Covid-19, teimlai Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru bod creu rhaglen hyfforddiant a datblygu yn hanfodol er mwyn datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder staff llyfrgelloedd i ddarparu gwasanaethau digidol dwyieithog a hybu cynigion a gwasanaethau'r llyfrgell er mwyn galluogi llyfrgelloedd i gyflawni eu potensial o ran ymgysylltu â darllenwyr a defnyddwyr llyfrgelloedd ar-lein.

Enwebwyd Estyn Allan gan Helen Pridham o Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych ac yn cael ei drefnu, ei gynllunio a’i ddarparu gan Kerry Pillai o Lyfrgelloedd Abertawe. Rhwng mis Ionawr a Mawrth 2021, datblygodd yr hyfforddeion sgiliau digidol newydd a buont yn cydweithio i greu cynnwys ar gyfer y cyhoedd, gan drawsnewid y gweithgareddau digidol a gynigir gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Roedd dau aelod o staff Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ymysg yr hyfforddeion sef Mathew Baker a Lois Jones.

Dywedodd Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych, Bethan Hughes: “Rydw i’n falch iawn o’r tîm am eu cefnogaeth lawn i Estyn Allan ac rydw i mor falch bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod trwy’r wobr hon. Mae Estyn Allan wedi gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i alluoedd digidol llyfrgelloedd ar-lein yn Sir Ddinbych a ledled Cymru. Roedd yn wych gweld staff o wahanol wasanaethau yn cydweithio a chefnogi ei gilydd. Dysgodd y tîm Estyn Allan sut i gyfweld, ffilmio, recordio, golygu, cyhoeddi, dylunio a rhoi cyhoeddusrwydd. Cawsant ymddangos o flaen y camera yn cyfweld ag awduron, cynnal grwpiau darllen a digwyddiadau byw, canu rhigymau ac adrodd storïau. 

“Roeddwn i mor falch o ddarllen sylwadau’r beirniaid a ddywedodd mai cryfder yr enwebiad oedd ei fod yn dathlu dewrder ac ymrwymiad y staff a gymerodd ran yn y rhaglen a’r rheiny a arweiniodd y tîm yn y grŵp llywio. Mae’r rhaglen wedi arwain at fwy o gydweithio ar draws llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, lansio gwasanaethau a nwyddau dwyieithog digidol newydd yn ogystal â rhai Cymraeg penodol, uwchsgilio'r staff, ac wedi adeiladu momentwm ar gyfer prosiectau yn y dyfodol."

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch iawn bod gwaith Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych o arwain y tîm y tu ôl i’r rhaglen Estyn Allan wedi cael ei gydnabod. Mae’r rhaglen hon wedi rhoi hwb cadarnhaol i’r gwasanaethau digidol ar-lein yr ydym yn eu darparu mewn llyfrgelloedd ledled y sir a diolchwn i Bethan am ei holl waith i wireddu hyn yn ystod misoedd anodd y pandemig."

Cyflwynwyd Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru gan Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Niwrnod Agored a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales i ddathlu cyflawniadau proffesiynol rhagorol gan dimau sy’n gweithio yn y gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru.

Fel cyflwynydd Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru, dywedodd y Gweinidog: “Mae rhaglen hyfforddiant Estyn Allan yn enghraifft ardderchog o'r ffordd mae llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru yn gallu cydweithio i wella gwasanaethau. Datblygodd sgiliau, gwybodaeth a hyder staff i ddarparu gweithgareddau digidol dwyieithog a hyrwyddo cynigion a gwasanaethau llyfrgelloedd. Roedd nifer fawr o enwebiadau ardderchog a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb yn ein llyfrgelloedd sy'n gweithio mor galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mor hanfodol."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...