llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Cefnogwch fasnachwyr Sir Ddinbych dros y gaeaf a #carubusnesaulleol

Mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hannog i gefnogi masnachwyr lleol y gaeaf hwn.

Mae ymgyrch sy’n amlygu’r cyfoeth o fusnesau, nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Ddinbych yn cael ei lansio wrth i’r sir alw ar bobl i siopa’n lleol a gwario’n lleol dros y gaeaf.

Mae’r ymgyrch yn estyniad i fenter #carubusnesaulleol, gyda phwyslais ar annog pobl i wario eu harian yn y sir, annog busnesau i ddangos eu cynnyrch neu wasanaethau ar y cyfryngau cymdeithasol a denu cwsmeriaid, hen a newydd, i ganol ein trefi.

Yn ogystal â chefnogi busnesau a’r economi leol, mae’r ymgyrch yn ceisio annog siopa cynaliadwy trwy brynu cynnyrch yn lleol a lleihau teithiau hir yn y car.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Economi:”Pwrpas yr ymgyrch ydi atgoffa pobl am yr holl fusnesau gwych sydd gennym ni yn Sir Ddinbych, a’u hannog i siopa a defnyddio gwasanaethau’n lleol lle bo modd er mwyn sicrhau bod economi Sir Ddinbych yn ffynnu ac ein bod yn lleihau ein hôl-troed carbon.

“Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i fusnesau ac rydym ni wedi bod yn cefnogi masnachwyr trwy gyllid Llywodraeth Cymru a thrwy ein tîm Datblygu’r Economi a Busnesau.

“Rydym ni’n meddwl ei bod hi’n bwysicach nag erioed hybu neges #carubusnesaulleol i’n trigolion ac atgoffa pawb bod llawer o siopau yn ein trefi a’n pentrefi sy’n cynnig ystod eang o gynnyrch, o fwyd a diod i harddwch a ffasiwn, o gelf a chrefft i wasanaethau proffesiynol.

 “Gall mynd am dro i’n trefi a’n pentrefi ddatgelu perlau bach. Rydym ni eisiau helpu busnesau i ddangos eu cynnyrch, annog pobl i fynd atynt a chyffroi a syfrdanu cwsmeriaid ynglŷn â’r hyn sydd ar gael.

“Rhowch gynnig ar fusnesau Sir Ddinbych a #carubusnesaulleol.”

Yn rhan o’r ymgyrch, mae’r Cyngor yn rhannu ei asedau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda masnachwyr ac yn eu hannog i floeddio am eu busnesau ar-lein.

Gall siopwyr helpu trwy rannu profiadau a chynnyrch gwych ar y cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i bobl eich bod chi wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn, ac annog eraill fel eu bod nhw’n #carubusnesaulleol hefyd.

Gallwch gymryd rhan trwy fynd i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...