llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Gwobr Gwirfoddolwyr i Grŵp Celf Sir Ddinbych

Mae grŵp celf wedi cael gwobr arbennig am eu gwaith i wella’r amgylchedd.

Mae Gwobrau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cydnabod grŵp celf Llanferres, Peintwyr y Parc Gwledig gyda’u Gwobr Gwirfoddolwyr.

Cyflwynwyd y wobr i’r grŵp gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y Cynghorydd Tony Thomas ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Mae’r grŵp wedi cynorthwyo’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dros nifer o flynyddoedd wrth arddangos eu gwaith ym Mharc Gwledig Loggerheads ers 2005, gyda chanran o werthiant paentiadau yn cael ei roi i elusennau gan gynnwys Ymchwil Canser, Ymchwil Diabetes, Eglwys Llanferres, Help for Heroes, African Water Aid, Cŵn Cymorth a Hosbis Tŷ Gobaith.

Bu i’r grŵp baentio’r piler triongli ar gopa Moel Famau, gan fynd yn groes i’r lliw gwyn plaen traddodiadol y rhan fwyaf o bileri triongli, gan ei drawsnewid yn ddarn o gelf, yn dangos y byd naturiol, gyda bob aelod o’r grŵp yn cynhyrchu silwét o anifail, aderyn neu bryf.

Dros y blynyddoedd mae’r grŵp hefyd wedi cynnal gweithgareddau codi arian yn ystafell gyfarfod Parc Gwledig Loggerheads, a nifer o stondinau yn gwerthu gwaith celf a chrefft, planhigion, llyfrau ac eitemau eraill gan godi mwy na £4,000 i elusennau.

Dywedodd Pat Armstrong, aelod o Beintwyr y Parc Gwledig: “Roedd y grŵp yn falch iawn o gael y wobr hon. Rydym yn ei ystyried yn fraint bod yn rhan o le mor ysbrydoledig sydd ar ein carreg drws.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau y Cyngor a chadeirydd Cyd-bwyllgor Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Hoffwn longyfarch Peintwyr y Parc Gwledig ar y wobr hon a diolch iddynt am eu holl waith dros y blynyddoedd yn cefnogi’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ogystal â nifer o elusennau.

“Mae Moel Famau a AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn adnodd gwych i breswylwyr ac ymwelwyr gan ddarparu mannau awyr agored gwych ac mae gwaith celf Peintwyr y Parc Gwledig yn helpu i gyfoethogi’r profiad.

“Hoffwn annog cerddwyr ym Moel Famau i edrych ar y piler triongli wrth ymweld â’r copa.”

Cyflwynwyd y wobr i’r grŵp gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y Cynghorydd Tony Thomas ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...