Mwynhewch Eco-Nadolig Llawen
Mae hi’n adeg honno o’r flwyddyn eto! Mae Nadolig yn amser ar gyfer teulu, ffrindiau a gweithgareddau hwyliog, ac i lawer mae’n ddirfawr ei angen ar ôl ansicrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymdopi â phandemig Covid-19.
Yn dilyn Cynhadledd COP26 eleni, mae pawb ohonom yn fwy ymwybodol nag erioed o pa mor bwysig yw bod yn gynaliadwy ag y gallwn, a gwneud y Nadolig hwn yn ecogyfeillgar.
Felly sut allwn ni fwynhau tymor y Nadolig a pheidio cael effaith negyddol ar y blaned?
Mae’r tîm Newid Hinsawdd wedi llunio’r awgrymiadau cyfleus yma i helpu gydag agweddau amrywiol – o’r diwrnod mawr ei hun i brynu anrhegion.
Mae popeth bychan rydym ni’n ei wneud yn helpu, ac fe allai’r newidiadau syml yma dros gyfnod y Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau i ddod
Gan y tîm Newid Hinsawdd, rydym ni’n dymuno Eco-Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!
Y Goeden Nadolig
- Os nad oes gennych chi goeden artiffisial yn barod, ceisiwch osgoi plastig. Mae coed Nadolig go iawn yn llawer mwy cynaliadwy na rhai artiffisial. Daeth un astudiaeth i’r casgliad y byddai angen i chi ddefnyddio coeden ffug am 20 mlynedd iddi fod yn fwy “gwyrdd”.
- Wedi dweud hynny, cofiwch ailgylchu eich coeden go iawn ar ôl cyfnod y Nadolig. Mae tua saith miliwn o goed go iawn yn debygol o gael eu taflu ym mis Ionawr! Os oes gennych chi gasgliad gwastraff gwyrdd fe fydd y Cyngor yn casglu eich coeden ac yn ei hailgylchu i chi, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi. Fe allwch chi drefnu i fynd â’ch coeden i’r gwastraff gwyrdd yn eich depo gwastraff, neu fel arall, gallwch ei thorri i fyny a phentyrru’r coed yn eich gardd er mwyn i’r adar a’r trychfilod eu mwynhau.
Cardiau Nadolig
- Mae swm anhygoel o 1.5biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn (yn ôl ymchwilwyr o Imperial College). Pam na wnewch chi anfon e-gerdyn at deulu a ffrindiau eleni, neu fel arall gallech anfon cardiau Nadolig y gellir eu plannu y gall eich anwyliaid sy’n eu derbyn eu hau yn y gwanwyn a mwynhau llysiau neu flodau gwyllt yn eu gardd y flwyddyn nesaf.
Prynu anrhegion
- Mae prynu anrhegion rydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eu mwynhau a’u defnyddio am gyfnod hir ymddangos yn amlwg, ond trwy beidio â phrynu’r anrhegion gwirion nad ydynt yn para ar ôl wythnos y Nadolig, rydyhc yn arbed gwastraff.
- Cadwch lygad am siopau a cwmnïau sy’n gwerthu anrhegion ecogyfeillgar. Efallai y gallech chi brynu potel y gellir ei hailddefnyddio, mabwysiadu anifail, prynu aelodaeth ar gyfer yr RSPB neu’r Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt neu ddod o hyd i anrhegion mwy gwyrdd megis dillad, esgidiau, pethau ymolchi moesegol a llawer o bethau eraill.
- Siopa'n Lleol! Cefnogwch y siopau annibynnol yn eich ardal leol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
- Cael Nadolig crefftus. Mae anrhegion cartref bob amser yn cael eu croesawu a’u trysori. Mae troch Nadolig naturiol, danteithion i’w bwyta neu galendr Adfent cartref i’w mwynhau dros y Nadolig i ddod yn syniadau carbon isel.
- Ceisiwch lapio’r anrhegion gyda phapur wedi’i ailgylchu neu mewn ffabrig lliwgar y gellir ei ailddefnyddio – fe allai hyn fod yn anrheg yn ei hun, yn ogystal ag edrych yn hardd!
Y Cinio Nadolig
- Ceisiwch brynu yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n eu fwyta’n unig a dewiswch eitemau sydd heb lawer o ddeunydd pacio. Os y bydd gennych chi fwyd dros ben, fe ellir eu defnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer rhywbryd eto er mwyn arbed arian a lleihau gwastraff. Tarwch olwg ar ryseitiau bwyd dros ben BBC Good Food i gael syniadau gwych..
- Yn ôl Cymdeithas Y Pridd, “bwyd yw’r dull dyddiol mwyaf pwysig y gall pobl leihau eu heffaith amgylcheddol”. Tarwch olwg ar y danteithion Nadoligaidd yma ar wefan Vegan Society.
- Os ydych chi’n prynu cig, ceisiwch ddewis fwyd organig a chrwydro’n rhydd, a ffermydd lleol bychan lle bo hynny’n bosibl – mae’n well i’r amgylchedd na chig wedi’i ffermio’n ddwys.