llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2024

Yr Hafod yn dathlu 10 mlynedd o gefnogaeth gymunedol ac atal digartrefedd yn Sir Ddinbych 

Mae canolfan fywiog sy'n darparu gwasanaethau pwysig ac atal digartrefedd yn Sir Ddinbych, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed.

Mae HWB Dinbych yn ganolfan gymunedol yn Ninbych sy'n cynnwys gwasanaeth tai â chymorth Yr Hafod. Grŵp Cynefin sy’n eu rhedeg, a lansiwyd hwy pan sefydlwyd y gymdeithas dai, 10 mlynedd yn ôl.

I nodi'r garreg filltir, mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, wedi ymweld â'r canolfannau ddydd Iau 28 Tachwedd. Fe wnaeth hi gwrdd â staff Grŵp Cynefin, yn clywed am yr ystod o wasanaethau hanfodol a ddarperir ac yn cwrdd â'r rhai sydd wedi elwa o'r gwasanaethau sydd ar gael.

Maen nhw'n cynnwys rhai o gyn-drigolion cyfleuster digartrefedd Yr Hafod y cafodd eu bywydau eu trawsnewid gan y gefnogaeth oedd ar gael yno.

Mae Yr Hafod yn brosiect tai â chymorth i bobl ifanc, sydd wedi'i leoli yn adeilad HWB Dinbych. Mae'r gwasanaethau atal digartrefedd yn dod o dan Gorwel, uned o fewn Grŵp Cynefin sy'n ymroddedig i gefnogi'r rhai sy'n wynebu digartrefedd yng Ngogledd Cymru. 

Mae Yr Hafod wedi bod yn cynnig cymorth i bobl ifanc 16-25 oed sy'n wynebu digartrefedd yn Sir Ddinbych dros y degawd diwethaf. Mae'n cynnig chwe fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel a chefnogaeth 24 awr, gan helpu preswylwyr i ddatblygu sgiliau rheoli tenantiaeth a chael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.

Mae HWB Dinbych yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Prosiect Ieuenctid Dinbych, Coleg Llandrillo a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych.

Cyngor Sir Ddinbych a sefydliadau lleol eraill. Mae'n cynnig ystod eang o wasanaethau sydd â'r nod o gefnogi'r gymuned leol.

Mae'n darparu cyfleoedd addysgol, cyflogaeth a llesiant, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi, gweithdai, a chefnogaeth ar gyfer mentrau hunangyflogaeth. Mae hefyd yn cynnal gweithgareddau cymunedol amrywiol, fel dosbarthiadau ffitrwydd, clybiau ieuenctid, a sesiynau celf a chrefft.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

"Mae HWB Dinbych ac Yr Hafod eu dau wedi cael effaith wirioneddol yn y gymuned leol. Mae HWB Dinbych yn ganolfan ddeinamig, fywiog sy'n darparu cefnogaeth, adnoddau ac addysg i bobl o bob oedran a chefndir. Mae'n cynnig croeso, gobaith a gweithredu cadarnhaol mewn ffordd ystyrlon, hirdymor.

"Mae'r timau ymroddedig a gweithgar yn Yr Hafod a HWB Dinbych yn dyst i ymrwymiad Grŵp Cynefin i greu amgylcheddau diogel a chefnogol i'n tenantiaid a'n cwsmeriaid. Mae eu llwyddiant dros y degawd diwethaf yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol sylweddol y gallwn ei chael yn ein cymunedau."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Rwy'n edrych ymlaen at nodi gwaith caled ac ymroddiad pawb sy'n ymwneud â'r ddau wasanaeth pwysig hyn a gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Ddinbych i fyw'n annibynnol.” 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...