llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig amser gyda ffrindiau bach blewog

Mewn ymdrech i hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol ar siwrnai pobl tuag at gyflogaeth, mae’r Prosiect 'Barod' o fewn Sir Ddinbych yn Gweithio yn lawnsio menter newydd - Taith Gerdded Lles ‘Cŵn a Chysur’, gyda phresenoldeb cŵn therapi cysurus.

Wedi’i ddylunio i ddarparu amgylchedd tawel ar gyfer preswylwyr di-waith Sir Ddinbych sy’n chwilio am egwyl o heriau bywyd bob dydd, mae Taith Gerdded Lles “Cŵn a Chysur” yn cyfuno buddion therapiwtig o gerdded gyda chysur a chwmnïaeth cŵn therapi ardystiedig.

Bydd y teithiau cerdded yn cael eu harwain gan Hyfforddwyr Lles a Gwytnwch Barod a bydd cerddwyr yn cael cwmni cŵn therapi wedi’i ddarparu gan Therapy Dogs Nationwide gyda’r gobaith i wella iechyd meddwl a lles.

Mae gan gŵn therapi’r gallu eithriadol i godi ysbryd pobl ac i roi cefnogaeth emosiynol. Mae eu presenoldeb tawel yn gallu lleihau teimladau o unigrwydd a gorbryder, gan eu gwneud yn gyfeillion perffaith ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwella eu lles meddyliol ac emosiynol.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Sir Ddinbych Yn Gweithio: “Mae bod yn ddi-waith yn gallu cael effaith negyddol ar les unigolyn felly mae’r prosiect ‘Barod’ yn cynnal gweithgareddau i gefnogi unigolion sy’n teimlo’r pwysau hynny.

"Bydd y prosiect yn cynnal amryw o weithgareddau lles trwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod hirdymor o baratoi pobl ar gyfer cyflogaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych bod y prosiect hwn wedi ehangu i gynnwys taith gerdded gyda chŵn therapi, gan fod cerdded yn yr awyr agored a rhyngweithio â chŵn ill dau yn cael eu cydnabod fel pethau sy’n gallu gwella iechyd meddwl.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ateb y meini prawf i gofrestru ac i roi cynnig ar y fenter hon sy’n rhad ac am ddim”.

Bydd teithiau cerdded yn cael eu cynnal rhwng 1pm a 2pm bob dydd Llun yn y Rhyl, Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhuthun hyd at 18 Rhagfyr. Ewch i https://www.denjobs.org/ er mwyn dod o hyd i’r digwyddiad sydd agosaf i chi.

Mae'r Teithiau Cerdded Lles “Cŵn a Chysur” yn rhad ac am ddim ac ar gael i unigolion o fewn ardal Sir Ddinbych, sydd dros 16 oed, yn ddi-waith a ddim mewn addysg. Croesawir pob lefel ffitrwydd.

Rhaid archebu lle a gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost i cerian.phoenix@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07824300769.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

         

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...