llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Uwch Gymhorthydd Gofal yn cofrestru ar gyfer ei chwrs nyrsio delfrydol

Bydd gweithiwr Gofal Cartref yng Nghartref Gofal Preswyl Cysgod y Gaer yng Nghorwen yn dechrau ar siwrnai i ddod yn nyrs oedolion cymwys ar ôl bron i bedair blynedd yn y cartref gofal.

Astudiodd Kira, sy’n 21 oed, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Wrecsam a dewisodd gyflawni ei lleoliad yn y cartref gofal yng Nghorwen. Ar ôl gorffen ei hastudiaethau, penderfynodd ddod yn ôl i weithio yn llawn amser yng Nghysgod y Gaer gan ei bod wedi mwynhau ei lleoliad gymaint, a bellach mae hi wedi treulio dros ddwy flynedd yn llawn amser yno.

Dringodd y llwybr gyrfa yn sydyn a daeth yn Uwch Gymhorthydd Gofal oddeutu blwyddyn yn ôl.

Meddai Kira: “Yn fy rôl fel uwch gymhorthydd gofal, rwyf wedi gweithio gyda nyrsys a pharafeddygon, ac roedd hynny wedi adeiladu fy hyder. Trwy weithio gyda nhw, cefais fewnwelediad i’w gwaith, a rhoddodd yr hyder i mi benderfynu rhoi tro arni.

"Yn sicr, byddaf yn methu'r preswylwyr a’r staff yn y cartref gofal. Rydym bob amser yn tynnu coes, ac maent oll yn teimlo fel teulu i mi erbyn hyn. O ran hynny, bydd yn anodd iawn gadael.

"Rydw i’n mynd i astudio Nyrsio Oedolion yn Wrecsam, a fy nod yn y pen draw yw dod yn Nyrs Cymunedol.”

Dywedodd Catherine Roberts, Rheolwr yng nghartref gofal Cysgod y Gaer: “Mae’n wych gweld cynnydd Kira, ac er fy mod yn colli aelod gwych o staff, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ifanc fynd i ddilyn eu breuddwydion.

"Beth bynnag yw eich rôl ddechreuol, neu lle bynnag ydych chi ar eich llwybr gyrfa, mae cyfleoedd bob amser ar gael i ddatblygu a gwneud cynnydd mewn gofal cymdeithasol.

"Mae Kira wedi ennill profiad gwerthfawr ac mae ei hyder wedi tyfu’n fawr ers iddi ddechrau gyda ni. Rydw i’n credu bod ei gwaith wedi ei pharatoi’n dda er mwyn symud ymlaen.

"Byddwn ni oll yn ei cholli, ond yn dymuno’n dda iawn iddi.”

I gael mwy o wybodaeth am weithio yn y maes gofal cymdeithasol, ewch i'n gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...