Mae atyniad hanesyddol poblogaidd yn Llangollen yn rhoi help llaw i natur yn lleol.
Fe ymunodd tîm Bioamrywiaeth y Cyngor â staff a gwirfoddolwyr ym Mhlas Newydd i greu cynefin naturiol cryfach i beillwyr lleol ei fwynhau.
Caiff cartref a gerddi hanesyddol Y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby eu cynnal gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE).
Cafodd y gwaith o blannu hadblanhigion ei wneud yn ardal y berllan a choetir o dir Plas Newydd yn rhan o statws newydd Cyfeillgar i Wenyn y safle. Y nod yw cefnogi adferiad gwenyn a pheillwyr eraill.
Bydd y blodau gwyllt yn helpu i greu bioamrywiaeth sydd yn fwy lliwgar, amrywiol a chryfach o amgylch y tir er mwyn i natur lleol ac ymwelwyr ei fwynhau.
Byddant hefyd yn darparu bwyd i’r gwenyn a pheillwyr eraill drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn yn cefnogi ein cadwyn fwyd. Mae diddymu’r cynefin hwn yn lleihau’r gefnogaeth ar gyfer peillwyr byd natur, gan effeithio ar ein cadwyn fwyd gan eu bod yn cefnogi twf y rhan fwyaf o’n ffrwythau a’n llysiau.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae Plas Newydd yn lleoliad gwych i ymwelwyr a’r gymuned leol i fwynhau, diolch i’w hanes cyfoethog. Mae hefyd yn lle gwych i natur ffynnu diolch i’r gwaith a wnaed i gynnal y gerddi hardd o amgylch y tŷ.
“Bydd y gwaith o blannu hadblanhigion i gynyddu’r nifer o flodau gwyllt ar y safle wir yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac yn annog mwy o natur i mewn i’r ardal leol i breswylwyr eu mwynhau.”
Oes gennych chi ardal Cyfeillgar i Wenyn yn barod yn eich gardd neu ar eich tir, neu hoffech chi greu un? Gall Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor gynnig cyngor a chefnogaeth i greu eich ardal Cyfeillgar i Wenyn ac ymgeisio am statws Cyfeillgar i Wenyn. E-bostiwch bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Gwenyn Gyfeillgar, a sut y gallwch chi gymryd rhan ar gael yn: Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru - Cyfeillgar i Wenyn (biodiversitywales.org.uk)