Mae nadroedd arswydus wedi ymlusgo mewn i lecyn natur ym Mhrestatyn, diolch i dechneg crefft draddodiadol.

Fe arweiniodd Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor sesiwn grefftau dan y thema Calan Gaeaf i wirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd yng Nghoed y Morfa.

Er mwyn creu’r creaduriaid i anrhydeddu Noswyl yr Holl Saint, defnyddiwyd coed oedd yn weddill ar ôl gwaith bôn-docio yn lleol gan Geidwaid Cefn Gwlad i greu detholiad o nadroedd.

Dull traddodiadol o reoli coetir yw bôn-docio, mae’n ddull o dorri coed neu lwyni drosodd a throsodd yn y bôn, gan greu stôl a gadael digon o’r goeden ar ôl iddi allu ail-dyfu a darparu cyflenwad cynaliadwy o goed.

Gellir defnyddio’r toriadau at ddibenion crefft neu i greu pentyrrau cynefin newydd i gefnogi bywyd gwyllt lleol drwy ddarparu deunydd nythu i anifeiliaid a chynefinoedd i ymlusgiaid.

Mae bôn-docio hefyd yn dynwared proses lle mae coed mawr yn disgyn yn sgil oed neu wyntoedd cryfion, gan alluogi i olau gyrraedd llawr y coetir a rhoi cyfle i rywogaethau eraill ffynnu. Gall hyn gychwyn adwaith gadwynol sydd yn cynyddu’r amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt yn ardal y coetir.

Meddai Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad: “Mae bôn-docio yn ddull traddodiadol gwych o gynnal a chadw coetiroedd ac i greu cyflenwad cynaliadwy o bren at ddibenion eraill. Mae wedi bod yn wych cyfuno hyn gyda chrefftau pren a’r gwirfoddolwyr i greu dathliad ymlusgol arswydus i groesawu Calan Gaeaf!”

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae ein Ceidwaid Cefn Gwlad wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gwirfoddolwyr sydd yn eu helpu drwy Natur er Budd Iechyd i edrych ar ôl ein hardaloedd natur lleol. Mae hi’n wych eu gweld nhw’n cyfuno sgiliau rheoli coetir ar gyfer dathlu Noswyl yr Holl Saint.”