Ebrill 2026

20/04/2026

Rhyfeddodau naturiol yn ysbrydoli gyrfa mewn natur

Mae cariad at anifeiliaid ers yn blentyn ifanc ac ysbrydoliaeth gan athro a fu’n cefnogi natur yn Ynysoedd y Galapagos wedi helpu i siapio gyrfa sydd bellach yn amddiffyn ac yn diogelu bioamrywiaeth Sir Ddinbych. 

Mae Ellie Wainwright yn rhan o Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor sydd yn gweithio’n galed gydol o flwyddyn yn cefnogi natur yn y Sir, yn sefydlu cynefinoedd newydd i helpu bywyd gwyllt lleol i ffynnu a goroesi, a helpu i addysgu pobl o bob oedran am yr hyn y gallant ei wneud eu hunain i amddiffyn eu bioamrywiaeth. 

Fe aeth Llais y Sir draw i siarad gydag Ellie i ganfod beth sydd wedi ei hysbrydoli gydol ei gyrfa sydd yn llawn o brofiadau yn helpu natur ar hyd a lled y DU.

 

Meddai Ellie: “Fe dyfais i fyny ger llyn mewn tref fechan yn Swydd Northampton. Yn dymhorol, fe fyddai’r llyffantod bach yn dod drwy ein gardd ddiwedd yr haf ar ôl gadael y llyn, ac mae gen i atgofion o fy mrawd a minnau’n mynd allan ac yn creu gwestai llyffantod iddynt ac yn gafael ynddynt.

“’Dwi wedi caru anifeiliaid erioed, ond doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa nes fy mod yn y chweched dosbarth.  Un o fy mhynciau Lefel A oedd Bioleg Ddynol a digwydd bod, roedd un o fy athrawon yn gadwraethwr.

“Roedd o wedi gweithio ar Ynysoedd y Galapagos i Operation Wallacea, sef sefydliad cŵl iawn sy’n cynnal ymgyrchoedd ymchwil bioamrywiaeth ar draws y byd, dwi’n meddwl mai crwbanod y môr yr oedd o’n ymchwilio iddynt.  Dyna oedd y tro cyntaf i mi sylweddoli y gallai hyn fod yn yrfa, felly fe benderfynais mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud, ac fe ddechreuais edrych i mewn i brifysgolion oedd yn cynnig cyrsiau ecoleg a chadwraeth.

Er mwyn cefnogi’r yrfa yr oedd hi a’i bryd arno, fe aeth Ellie ati’n gyflym i wirfoddoli ar benwythnosau gyda’r grŵp Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol i gael profiad gwerthfawr tra’n gweithio yn un o’u coetiroedd. 

Gan ddefnyddio ei phrofiad yn gwirfoddoli, fe ddechreuodd ar gwrs cadwraeth bywyd gwyllt ym Mhrifysgol Caint. 

Meddai Ellie: “Roedd o’n gwrs da iawn lle dysgais am theori cadwraeth.  Fy hoff fodiwlau oedd Bioleg Esblygol a Geneteg, a Newid Ymddygiad.  Defnyddiodd llawer o ddarlithwyr enghreifftiau o ecosystemau trofannol gan fod nifer ohonynt wedi byw dramor ac wedi gweithio gyda rhywogaethau ym Madagascar, Mauritius, a Borneo.

“Er roedd yna un darlithydd oedd yn gwneud llawer o waith gyda rhywogaethau ymlusgiaid ac amffibiaid y DU, sydd yn agosach at fy ngwaith i rŵan.”

Rhwng ei hail a’i thrydedd flwyddyn, fe dreuliodd Ellie amser yn ychwanegu elfennau o Sŵoleg at ei dysgu ar gyfer ei phrofiad ymarfer proffesiynol gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durel yn Sŵ Jersey.

Meddai:  “Fe weithiais fel myfyriwr ar leoliad/ceidwad sŵ dan hyfforddiant yn adran yr adar am bum mis, ac am y gweddill roeddwn i yn adran y mamaliaid ac roedd hynny’n hwyl mawr.  Roedd hi’n hynod ddiddorol dysgu am yr holl rywogaethau gwahanol a sut maent yn eu cadw a’u bridio ar gyfer prosiectau cadwraeth gwahanol o amgylch y byd.”

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, fe ddaeth Ellie i Sir Ddinbych am y tro cyntaf i ddarganfod natur y Sir. 

Fe eglurodd:  “Fe ymgeisiais am swydd fel Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol gyda AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy oedd yn swydd am dri diwrnod yr wythnos. Fe symudais fyny a rhannu tŷ yn Wrecsam ac fe ddatblygodd y swydd yn gyflym i fod yn un pump diwrnod yr wythnos. 

“Fe weithiais gyda phrosiect Natur er Budd Iechyd sydd yn brosiect hyfryd i gysylltu â phobl yn yr awyr agored i helpu eu hiechyd corfforol a meddyliol.  Roeddwn i’n ceisio cynnwys bioamrywiaeth yn y gwaith yma cymaint â phosibl,  yn ogystal â gweithgareddau megis ymwybyddiaeth ofalgar a chelfyddydau a chrefftau, roeddwn i bob amser yn ceisio cael pobl i gymryd rhan yn yr arolygon ystlumod.”

Ar ôl gweithio gyda Natur er Budd Iechyd, daeth Ellie yn Geidwad parhaol gyda AHNE gan weithio yn yr awyr agored yn ardaloedd Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, ac yn ystod y cyfnod yma fe fu’n monitro safleoedd megis Rhaeadr y Bedol yn ystod pandemig Covid a’r nifer o reoliadau y bu’n rhaid i’r cyhoedd eu dilyn. 

Trwy gydol hyn, roedd gwirfoddoli yn dal i ddarparu profiadau a darganfyddiadau newydd i Ellie a fu’n help iddi symud ymlaen yn ei gyrfa bioamrywiaeth i’r swydd mae hi’n ei wneud heddiw i Gyngor Sir Ddinbych.

Meddai:  “Roeddwn i wedi bod yn gwneud llawer o arolygon bywyd gwyllt gwirfoddol y tu allan i fy swydd dros y blynyddoedd; roeddwn i’n mynd allan gyda Grŵp Ystlumod Clwyd a Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru.  Yn ogystal â helpu ag arolygon madfallod dŵr gribog gyda cheidwaid Wrecsam yn un o’u safleoedd a thrwy’r gwaith hefyd.” 

Roedd cysylltu â Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru yn gyfle iddi astudio ystlum ‘Nathusius’ pipistrelle’ gan ddefnyddio dulliau diogel a thrugarog i ddal ystlumod i edrych sut maen nhw’n ymfudo. 

“Roedd yn wych gan fod yna bobl wybodus iawn yn ei gynnal.  Fe fyddech chi’n gallu gweld ystlumod yn agos a oedd yn rhyfeddol, fe ddysgais i lawer.  Ar un pwynt roeddwn i’n rhyddhau ystlum Pipistrelle bychan, ond roedd yn amlwg wedi cynhesu ar fy nwylo a doedd o ddim eisiau gadael.

Yn sgil y profiad yma fe symudodd Ellie i swydd Swyddog Bioamrywiaeth Cynorthwyol yng Nghyngor Sir y Fflint. 

Meddai Ellie: “Fe ddysgais i lawer yno, mae’n wahanol iawn i Sir Ddinbych gan fod yna fwy o ardaloedd trefol…fe fues i’n rhan o’u prosiect blodau gwyllt ac roedd modd i mi gynnal llawer mwy o arolygon natur a bywyd gwyllt yn y swydd honno, oedd yn brofiad gwych. 

 

Yn ei swydd bresennol fel Swyddog Bioamrywiaeth, mae’n amlwg fod y tân y tu hôl i’w hangerdd i warchod natur yn dal i losgi mor gryf.

Meddai: “Dwi wrth fy modd yn cynnal arolygon a gweld y rhywogaethau rydym ni’n ceisio eu hachub a chreu mwy o gynefinoedd ar eu cyfer.   Mae’n gwneud i chi feddwl pam rydych chi’n gwneud y swydd ac i mi…mae mor dda i fy iechyd meddwl fy hun.

“Bob tro dwi’n gweld llyffant; dwi mor hapus. Fe wirionais y tro cyntaf i mi weld madfall y twyni.  Dwi wedi gweld fy mhathew cyntaf yn y swydd hefyd.

“Mae’r Prosiect Bywyd Gwyllt yn wych; dwi’n meddwl mai dyma un o’r prosiectau cadwraeth gorau y gall unrhyw Awdurdod Lleol ei wneud.  Gall newid syml i’r ffordd y mae’r Cyngor yn rheoli ei laswelltiroedd olygu cymaint o fanteision i fywyd gwyllt.

“Dwi’n meddwl ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y Sir, rydym wedi troi 1820km o rwydwaith ymylon ffyrdd gwledig i gynefin gwair hir/blodau gwyllt dros yr haf.  Yn ogystal â throi 60 o erwau o ymylon trefol a mannau gwyrdd i ddolydd blodau gwyllt ac maen nhw i gyd wedi gwella amrywiaeth y rhywogaethau. 

Meddai Ellie: “Gan ein bod wedi bod yn cynnal arolygon blodau gwyllt ar y safleoedd bob tymor tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020, fe allwn ni ddweud yn bendant fod yr holl safleoedd trefol wedi gweld cynnydd yn amrywiaeth y rhywogaethau planhigion - rhai yn eithaf sylweddol! Dwi wrth fy modd gyda’r teimlad fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth a gweld effeithiau cadarnhaol yn sgil ein gwaith.  Mae’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n gwneud fy rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfwng newid hinsawdd.”

Ar hyn o bryd mae Ellie a’i chydweithwyr yn brysur yn creu Gwarchodfa Natur Green Gates sy’n 70 erw o faint sydd eisoes yn cynnwys planhigfa goed a blodau gwyllt lleol y mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi helpu i’w sefydlu. 

Meddai Ellie: “Mae wedi bod yn mynd rhagddo ers tipyn, ond dwi’n meddwl ein bod wedi creu cynefin gwerthfawr iawn i fywyd gwyllt.  Rydych chi’n cerdded o amgylch y safle rŵan ac maen llawn bywyd, rydym wedi gweld glas y dorlan, ac rydym ni wedi cael llysywod yn y ffrwd.  Dwi’n gweld cudyll coch a bwncathod yn hela dros y glaswelltir garw, ac rydym ni wedi gweld tair neidr y glaswellt yr haf yma. 

“Rydym ni wedi gosod 20 o byllau ar y safle, ac mae pob un ohonyn yn dechrau gwyrddu.  Gan fod y rhywogaethau planhigion y dŵr gwahanol yn tyfu, rydym wedi cofnodi grifft ac mae yna fadfallod dŵr cyffredin yn rhai o’r pyllau newydd sbon hefyd. Rydym wedi cofnodi madfallod dŵr cribog ar y safle o’r blaen, ac rydym yn rhagweld y bydd safle’n bwysig iawn iddynt wrth symud ymlaen.”

Mae miloedd o goed sydd wedi’u tyfu o hadau sydd yn tarddu o’r Sir yn lleol gan Ellie a’r Tîm Bioamrywiaeth wedi cael eu plannu ar y safle hefyd, ac mae gwaith paratoi ar y gweill ar gyfer dau neu fwy o breswylwyr arbennig newydd yn y warchodfa’r flwyddyn nesaf.

Meddai:  “Rydym wedi bod yn gweithio yn y cefndir ar Brosiect Afancod Sir Ddinbych, er mwyn asesu a fyddai’n ymarferol a dysgu am y rhywogaeth.  Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael mynd i Bafaria gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Afancod i weld cynefinoedd afancod fy hun. Roedd hi’n ddiddorol dysgu am y ffyrdd gwahanol maen nhw’n rheoli afancod ym Mafaria ers iddynt gael eu hailgyflwyno yn y 1960au, a beth y gellir ei ddefnyddio rŵan gan eu bod nhw’n ôl ym Mhrydain.  Erbyn hyn, rydym ni’n llawer agosach at eu rhyddhau nhw mewn i’r man caeedig ar y safle.

Mae’r tîm wrthi’n gweithio ar gais am drwydded i gartrefu’r afancod yn y man caeedig sydd wedi’i greu, ac os bydd y cyfan yn gweithio’n iawn maent yn gobeithio cyflwyno’r preswylwyr newydd ar ôl haf 2026. 

Gyda chymaint o brofiad o natur a bywyd gwyllt yn ei gyrfa hyd yn hyn, mae Ellie’n obeithiol y bydd mwy o bobl yn ei dilyn i ddarparu’r cymorth mae ein hamgylchedd ei angen. 

Meddai:  “Fe fyddwn i’n dweud fod angen i unrhyw un sydd eisiau mentro i faes cadwraeth fod â gradd y dyddiau hyn. Felly mae gwneud rhyw fath o addysg ffurfiol yn syniad da. A… gwirfoddoli, gwirfoddoli, gwirfoddoli. Rydych angen cael gymaint o brofiad â phosibl ac rydych eisiau rhoi cynnig ar gymaint â phosibl fel eich bod yn gwybod yn union eich bod eisiau mentro i’r maes.

“Fe wnes i dair blynedd o waith cadwraeth ymarferol sydd yn wych os ydych chi eisiau mynd amdani a gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.  Mae yna sawl llwybr gwahanol y gallwch ei gymryd.  Rhowch gynnig ar bob un, gwnewch rywfaint o bob un i weld pa un ydych chi’n ei hoffi.”

Comments