20/04/2026
“Caffi iaith” Sir Ddinbych yn Gweithio yn y Rhyl yn helpu oedolion i fagu hyder i siarad Saesneg
Mae’r Caffi Iaith sy’n cael ei redeg gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn Llyfrgell y Rhyl yn cefnogi oedolion ar draws y Sir i fagu hyder i siarad Saesneg, gan gynnig gofod cefnogol, croesawgar lle gallant ymarfer sgwrsio ar unrhyw lefel neu fel ail iaith.
Cafodd y Caffi Iaith ei ddatblygu gan Sir Ddinbych yn Gweithio er mwyn ymateb i sgyrsiau gyda chyfranogwyr oedd dal i deimlo’n betrusgar am siarad Saesneg mewn sefyllfaoedd bob dydd er eu bod yn mynychu cyrsiau Saesneg fel Ail Iaith am flwyddyn neu fwy. Tra’u bod yn gwneud cynnydd mewn amgylcheddau dysgu ffurfiol, nid oedd gan lawer o ddysgwyr gyfle i ymarfer siarad mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol.
Yn cael ei gynnal yn wythnosol yn Llyfrgell y Rhyl, mae’r Caffi Iaith yn canolbwyntio ar greu amgylchedd cefnogol lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus yn ymarfer Saesneg ar eu lefel eu hunain. Mae’r sgyrsiau yn gyfeillgar, gan annog cyfathrebu a hyder yn hytrach na chywirdeb, ac mae paneidiau o de a choffi ar gael.
Mae’r sesiynau’n cael eu gwerthfawrogi gan bobl sydd eisoes yn mynychu cyrsiau Saesneg fel Ail Iaith gan eu bod nhw’n rhoi mwy o amser iddynt ymarfer siarad y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae pynciau trafod a gweithgareddau syml yn helpu i dorri’r iâ ac yn ei gwneud hi’n haws i bawb ymuno, boed nhw’n siarad Saesneg am y tro cyntaf neu eisiau magu hyder.
Mae’r effaith yn amlwg. Yn aml mae cyfranogwyr sy’n cyrraedd yn teimlo’n swil neu’n bryderus am siarad yn aml yn ymlacio ac yn cymryd rhan ar ôl mynychu ychydig o sesiynau. Dros amser, mae nifer yn magu llawer o hyder, gan gymryd rhan mewn sgyrsiau, gofyn cwestiynau a chefnogi eraill sydd yn llai hyderus.

Mae nifer o’r cyfranogwyr wedi disgrifio’r Caffi Iaith fel cymorth enfawr i’w dysgu, gan rannu sut maen nhw bellach yn teimlo’n fwy hyderus yn cyflwyno eu hunain, yn cynnal sgyrsiau bob dydd ac yn cyfathrebu’n fwy cyfforddus yn eu bywydau bob dydd.
Meddai Rasha Azzam, Swyddog Cefnogi:
“Gall siarad iaith newydd fod yn eithaf heriol, ond mewn amgylchedd cefnogol mae hynny’n dod yn llawer haws. Mae ein Caffi Iaith yn dod â chyfranogwyr ynghyd o ddiwylliannau amrywiol, a’r hyn sy’n gyffredin ganddynt yw eu bod eisiau gwella eu Saesneg yn DU. Rydym ni’n creu gofod diogel, croesawgar lle gall cyfranogwyr ymarfer siarad Saesneg heb ofn eu bod yn cael eu beirniadu. Rydym ni wedi gweld cyfranogwyr yn magu hyder, ac yn canfod eu llais drwy sgyrsiau cyfeillgar, anffurfiol.”
Meddai Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol:
“I bobl sydd ddim yn siarad Saesneg fel Iaith Arall, fe all diffyg hyder yn siarad fod yn rhwystr gwirioneddol i fywydau bob dydd. Fe all effeithio ar bopeth o fynychu apwyntiadau i deimlo’n barod i weithio, dysgu ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae’r Caffi Iaith yn darparu amgylchedd lle gall pobl ymarfer siarad Saesneg mewn sgyrsiau go iawn a magu hyder mewn ffordd nad yw dysgu ffurfiol yn ei alluogi. Rydym ni’n falch iawn o’r hyn mae Rasha wedi’i greu. Mae ei hymroddiad a’i hangerdd i’w weld yn glir yn y gofod croesawgar a chefnogol mae hi wedi’i greu, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’n parhau i dyfu a chefnogi hyd yn oed mwy o bobl yn ein cymuned.”
Mae’r Caffi Iaith yn cael ei gynnal bob dydd Llun rhwng 10:00am a 11:00am yng Nghaffi Llyfrgell y Rhyl (LL18 3AA) ac mae ar agor i breswylwyr Sir Ddinbych 16+ oed.
Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:
Caiff Sir Ddinbych yn Gweithio ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru. Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU. I gael gwybod mwy neu i gysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i: www.sirddinbychyngweithio.gov.uk