29/07/2025
Cefnogi Bioamrywiaeth gyda Diwrnod Natur BIONET yn Nantclwyd y Dre
Mae’r trefniadau ar y gweill ar gyfer Diwrnod Natur blynyddol BIONET yn nhŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre, yn Rhuthun.
Estynnir gwahoddiad i gadwraethwyr, unigolion sy’n frwdfrydig dros yr amgylchedd ac unrhyw un sy’n mwynhau cymryd rhan ym myd natur i ddigwyddiad rhad ac am ddim a gynhelir ddydd Sul 10 Awst rhwng 11am a 3pm, ar gyfer cwrdd â sefydliadau bywyd gwyllt lleol a mwynhau gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu, gan gynnwys paentio wynebau, sesiynau adrodd straeon byw a gweithdai gwehyddu helyg.
Mae Partneriaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru, BIONET, yn cwmpasu Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam, ac yn gweithio i warchod, diogelu a gwella bioamrywiaeth yn y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Meddai Clare Owen, Swyddog Prosiect BIONET: “Mae ein Diwrnod Natur blynyddol yn tynnu sylw at y gwaith gwych sy’n digwydd yn yr ardal i annog bioamrywiaeth i ffynnu a goroesi a rhannu hyn gyda’r gymuned leol.
Ychwanegodd: “Mae’n gyfle gwych hefyd i blant ddatblygu eu dealltwriaeth o’r amgylchedd lleol, gyda nifer o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn cynnig ffyrdd llawn hwyl o ddysgu mwy am y gwaith maent yn ei wneud, ac mae’r gerddi yn Nantclwyd y Dre yn lleoliad hyfryd ar gyfer y diwrnod.”
Bydd Prifysgol Caer, Planhigfa Goed Sir Ddinbych, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog, Cyfeillion y Ddaear Rhuthun, Natur er Budd Iechyd, BTO, Sefydliad Sea Watch, Wild Ground a mwy yn ymuno â BIONET.
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych: “Mae Diwrnod Natur Bionet yn ddigwyddiad blynyddol gwych yn Nantclwyd y Dre i bawb o bob oed gael profi sut rydym yn gofalu am ein bywyd gwyllt ar draws y rhanbarth a beth all y cyhoedd ei wneud hefyd i gefnogi. Rwy’n annog pob teulu i ddod i ymuno â’r gweithgareddau llawn hwyl, rhad ac am ddim ar y diwrnod.”
Ariennir y Diwrnod Natur gan gynllun Partneriaeth Natur Lleol Llywodraeth Cymru drwy’r CGGC.
I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalen digwyddiadau Facebook BIONET https://fb.me/e/adedt0Hkl a chofrestru eich diddordeb mewn derbyn nodyn atgoffa wrth i’r digwyddiad agosáu neu drwy anfon e-bost at clare.owen@sirddinbych.gov.uk