02/06/2025
								Y Cynghorydd Julie Matthews yn croesawu Llais y Sir ar ei newydd wedd
								Wrth i ni lansio'r e-gylchlythyr newydd i drigolion, cafodd Llais y Sir sgwrs gyda'r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol
Beth yw eich cyfrifoldebau fel Aelod Arweiniol y Cabinet?
Mae fy rôl yn ymwneud â pherfformiad a’r broses o redeg y Cyngor. Mae'n debyg mai’r ochr anweledig gorfforaethol yw hyn, er enghraifft adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cyfreithiol a democrataidd, caffael, TGCh, cyfathrebu a rheoli asedau. Ond heb yr holl wasanaethau hyn, mewn gwirionedd, ni fyddai'r Cyngor yn gallu gweithredu.
Yn ogystal â'r gwasanaethau mewnol yma, rwy’n gyfrifol am y ddeddf lles a chenedlaethau'r dyfodol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, hyfforddiant a datblygu ar gyfer aelodau'r Cyngor ac rwy'n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog.
Un o'r pethau rwy'n fwyaf angerddol amdano yw cydraddoldeb ac amrywiaeth gan mai dyma fy nghefndir proffesiynol. Roeddwn i'n arfer gweithio i elusen cydraddoldeb rhywedd cyn i mi ddod yn Gynghorydd, felly mae hyn yn arbennig o bwysig i mi. Roedd yr elusen yn ymwneud â chyfleoedd datblygu i ferched i’w galluogi i fynd mewn i rolau arweinyddiaeth a rhoi’r hyder iddynt lwyddo.
Cyn hynny, roeddwn yn gweithio yn yr asiantaeth budd-daliadau yn y Rhyl ac yno fe ddes yn gynrychiolydd Undeb. Fel rhan o'r rôl honno, roeddwn i'n arfer hyfforddi staff a gwnaeth hyn fy arwain wedyn i faes addysg i oedolion. Yn y diwedd, roeddwn yn rheolwr rhaglen mewn coleg yn Solihull yn gofalu am astudiaethau rheoli, proffesiynol ac undebau llafur.
Beth oedd eich cymhelliad i ddod yn Gynghorydd?
Fel llawer o bobl, yn ystod Covid cawsom gyfnod eithaf anodd. Fe wnes i ddod yn ofalwr i fy mam ar ôl i ni golli fy mrawd iau oedd wedi bod yn byw efo hi. O ganlyniad, roedden ni angen lot o gefnogaeth ychwanegol, ond roedd o mewn cyfnod pan oedd hi’n heriol iawn cael gafael ar y cymorth yna.
Ar ôl cael cael profiad uniongyrchol o wasanaethau'r cyngor, fe wnaeth o arwain i mi feddwl am bwysigrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus a pha mor bwysig ydy sicrhau eu bod o ansawdd uchel ond hefyd eu bod nhw’n hygyrch ac yn gwasanaethu anghenion y gymuned.
Wrth edrych yn ôl, roedd yn gyfnod rhwystredig iawn ac o'n profiad ni, gallai fod wedi bod yn well. O leiaf roedd gan mam ein cefnogaeth ni, ond fe wnaeth i mi feddwl am beth sy'n digwydd i bobl sydd heb y lefel honno o gefnogaeth.
A dyna pam penderfynais ddod yn Gynghorydd. Gallwn fod wedi eistedd yn ôl, ond roedd yn bwysig i mi i fod yn weithredol a gwneud rhywbeth i geisio gwneud gwahaniaeth a rhoi cyfle i bawb fyw'r bywyd gorau y gallant.
Mae'n rôl anodd, ac mae’n hawdd mynd braidd yn amddiffynnol wrth weld pethau negyddol yn y wasg,achos da ni’n dod i'r rôl i wneud gwahaniaeth ac i geisio helpu cymaint o bobl â phosibl.
Rwy'n credu y byddai'n brofiad gwych i unrhyw un. Fel cynghorydd, yn amlwg, rydym ni'n gyfrifol am ddwyn pobl i gyfrif, ond be da ni hefyd yn ei weld ydy’r gwaith mae’r staff yn ei wneud a pa mor ymroddedig ydyn nhw - mae'n agoriad llygad.
Beth ydych chi'n ei garu am Sir Ddinbych?
Weithiau ‘da chi’n anghofio faint rydych chi'n hoffi lle nes i chi symud. A dyna ddigwyddodd i mi pan es i i Solihull. Yn ffodus, gyda swydd addysgu, gallwn ddod yn ôl yn aml i aros gyda mam ac fe wnes gadw cyswllt efo’m holl ffrindiau.
Rwy'n credu bod pobl Sir Ddinbych yn wych, ac fel lleoliad mae gymaint tawelach a mwy hamddennol na'r ddinas. Rydym mor ffodus - mae gennym draethau gwych ond gallwn hefyd fod yng nghanol cefn gwlad o fewn hanner awr. Mae gennym olygfeydd anhygoel ar ein stepen drws - sy'n rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol weithiau.
Pan ges i fy niswyddo yn Solihull, gallwn fod wedi dod o hyd i swydd arall yno, ond wnes i ddim meddwl dwywaith - roeddwn i eisiau dod adref.
Beth sy’n eich cyffroi am y gwaith sydd ar y gweill gan y Cyngor?
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at agor Marchnad y Frenhines yn y Rhyl - mae wedi bod yn amser hir, ond rwy'n sicr y bydd werth yr holl aros. Cawsom ymweliad yno’n ddiweddar ac mae'n edrych yn wych. Gobeithio y bydd hyn yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach yn y Rhyl - sydd bob amser wedi bod yn sbardun i'r gwaith adfywio y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud.
Mewn mannau eraill yn y Sir mae nifer o brosiectau llwyddiannus eraill wedi eu cwblhau. Roedd yn wych mynychu digwyddiad y llynedd yng Nghorwen i ddathlu cwblhad amrywiaeth o brosiectau adfywio. Hefyd yng Nghorwen, agorwyd trac pwmp Clawdd Poncen ac mae wedi profi'n hynod boblogaidd gyda phobl ifanc yr ardal tra bod gwelliannau eraill yn cynnwys lle tyfu cymunedol, llwybr o amgylch y cae, meinciau a physt gôl newydd sy'n ei gwneud hi'n haws i drigolion fwynhau'r lle.

Yn y cyfamser yn Llangollen, cwblhawyd prosiect y Pedair Priffordd Fawr y llynedd gydag amrywiaeth o waith i wella profiad trigolion ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yno.
Yn Rhuthun, agorwyd maes chwarae hygyrch cynhwysol cyntaf o'i fath yng Ngogledd Cymru yng Nghae Ddol gydag offer sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd wedi'i gynllunio gyda phlant o bob gallu mewn golwg. Yn ogystal, roedd y prosiect hefyd yn cynnwys gosod ardal chwarae ychwanegol i blant iau wrth ymyl y parc sglefrio. Hefyd yn Rhuthun, cwblhawyd y gwaith adfer ar Dŵr y Cloc ym mis Rhagfyr.
Er y gall y Cyngor wneud llawer, ni all wneud popeth a buddsoddiad mewnol yw'r hyn sydd ei angen - mae angen i ni gael busnesau ledled y sir i gefnogi mentrau fel Trawsnewid Trefi - mae arian yno i'w helpu i ddatblygu a gwella canol ein trefi.
Felly beth am y rhifyn newydd hwn o Llais y Sir?
Dosbarthwyd rhifyn cyntaf  Llais y Sir fel copi caled dros 20 mlynedd yn ôl yn haf 2002 ac mae wedi bod yn gylchlythyr i drigolion ers hynny. Lansiwyd y fersiwn ddigidol yn 2015 felly mae'n ymddangos yn briodol ein bod ni'n cael adnewyddiad 10 mlynedd yn ddiweddarach.
Nod y cylchlythyr electronig newydd yw darparu newyddion dyddiol cyfoes gan y Cyngor. Gallwch danysgrifio i dderbyn cylchlythyr misol ond gallwch hefyd ymweld â’r safle bob dydd i weld y newyddion diweddaraf. Yn ogystal â gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd, bydd gennym erthyglau sy’n taflu goleuni ar wahanol feysydd gwaith yn ogystal â chlipiau fideo a chyfweliadau â staff ac Aelodau.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed adborth pobl ac rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddol. Cofiwch - os ydych chi eisiau'r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf dibynadwy am yr hyn sy'n digwydd yn y Cyngor, tanysgrifiwch drwy'r wefan.