26/06/2025
Codi baneri i anrhydeddu’r Lluoedd Arfog
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog yr wythnos hon.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog, sy’n digwydd ar 28 Mehefin, yn gyfle i gefnogi'r dynion a'r merched sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, o filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn filwyr a chadetiaid.
Mae Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn yn dathlu eu cyfraniad i'r Lluoedd Arfog ac fe'i cynhaliwyd ar 25 Mehefin.
I goffáu'r wythnos, bydd baner arbennig y lluoedd arfog yn chwifio y tu allan i Neuadd y Sir i gofio'r achlysur.
