11/11/2025
Grŵp cerdded yn cael cipolwg ar rwydwaith llwybrau’r Cyngor

Yn ddiweddar, cafodd grŵp o Ddyffryn Clwyd gyfle arbennig i ddysgu mwy am lwybrau cerdded Sir Ddinbych i nodi pen-blwydd arbennig.
Bu Grŵp Dyffryn Clwyd o Ramblers Cymru – criw sy’n cynnig teithiau cerdded rheolaidd yn yr ardal a thu hwnt – yn dathlu 30 mlynedd yn ddiweddar drwy fynd am dro o amgylch llwybrau Dinbych a mwynhau cinio a chyflwyniad yng Nghanolfan Eirianfa yn Ninbych.
Rhoddodd Adrian Walls, Swyddog Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ddinbych, gyflwyniad i’r grŵp ar hyd a lled rhwydwaith llwybrau’r Cyngor drwy’r sir.
Fe helpodd i roi syniadau ar gyfer teithiau cerdded y grŵp yn y dyfodol a diolchodd iddynt am eu cymorth wrth helpu i reoli’r rhwydwaith drwy eu teithiau ar grwydr.