Tachwedd 2025

27/10/2025

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,200 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Child Trust FundCyflwynwyd Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Mae bron hanner nifer y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru heb eu hawlio o hyd. Yn ôl y Share Foundation, mae oddeutu 1240 o gyfrifon heb eu hawlio o hyd yn Sir Ddinbych.

Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu.  Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall. Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol.  Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

“Hoffwn annog yr holl bobl ifanc sy’n gymwys i wirio eu cyfrifon a hawlio yr hyn sy’n eiddo iddynt. Gellir symud y buddsoddiad i ISA oedolyn neu ei ddefnyddio ar gyfer eu haddysg, tai neu wersi gyrru.

Byddwn yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r adnodd ar-lein i’w olrhain, neu i rieni plant yn eu harddegau i siarad â nhw i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gallai hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cynlluniau ar gyfer eu dyfodol yn enwedig mewn cyfnod pan fo arian yn dynn.”

Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, ewch i www.gov.uk/child-trust-funds. Fel arall, ewch i https://www.meiccymru.org/do-you-have-money-hiding-in-a-child-trust-fund, anfonwch neges destun at 07943 114449 neu ffoniwch 080880 23456.

Comments